Chronological
9 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia, honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi. 10 Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria. 11 A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid: 12 Am na wrandawsent ar lais yr Arglwydd eu Duw, eithr troseddu ei gyfamod ef, a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr Arglwydd, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwnaent hwynt.
13 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda, ac a’u henillodd hwynt. 14 A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis, gan ddywedyd, Pechais, dychwel oddi wrthyf: dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda, dri chant o dalentau arian, a deg ar hugain o dalentau aur. 15 A Heseceia a roddodd iddo yr holl arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin. 16 Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr Arglwydd, ac oddi ar y colofnau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria.
17 A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr. 18 Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur. 19 A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo? 20 Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i’m herbyn i? 21 Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifft, yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef. 22 Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym ni yn ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a’i allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem? 23 Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy. 24 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch? 25 Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i’w ddinistrio ef? Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi. 26 Yna y dywedodd Eliacim mab Hilceia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur. 27 Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi? 28 Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria. 29 Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i. 30 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria. 31 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun: 32 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y byddoch fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’n gwared ni. 33 A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria? 34 Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw i? 35 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw i? 36 Eithr y bobl a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef. 37 Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.
19 A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd â sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd. 2 Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos. 3 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. 4 Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. 5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
6 Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. 7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis. 9 A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela â thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddywedyd, 10 Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria. 11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di? 12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar? 13 Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?
14 A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a’u darllenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, ac a’u lledodd hwynt gerbron yr Arglwydd. 15 A Heseceia a weddïodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd Dduw, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear. 16 Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw. 17 Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir, 18 A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. 19 Yn awr gan hynny, O Arglwydd ein Duw ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, tydi yn unig.
20 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria. 21 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di. 22 Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel. 23 Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr Arglwydd, ac y dywedaist, Â lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef. 24 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac â gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchaeëdig. 25 Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol. 26 Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu. 27 Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabûm i, a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn. 28 Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. 29 A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 30 A’r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny. 31 Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn. 32 Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno; hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi â tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi. 33 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr Arglwydd. 34 Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
35 A’r noson honno yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon. 36 Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe. 37 A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia: ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth.
46 Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. 2 Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr: 3 Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela. 4 Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw; cysegr preswylfeydd y Goruchaf. 5 Duw sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: Duw a’i cynorthwya yn fore iawn. 6 Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear. 7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela. 8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd; pa anghyfanhedd‐dra a wnaeth efe ar y ddaear. 9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân. 10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear. 11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob. Sela.
I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.
80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. 2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. 3 Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 4 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? 5 Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. 6 Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. 7 O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 8 Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. 9 Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun. 16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt. 17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
135 Molwch yr Arglwydd. Molwch enw yr Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef. 2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd, yng nghynteddoedd tŷ ein Duw ni, 3 Molwch yr Arglwydd; canys da yw yr Arglwydd: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw. 4 Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo. 5 Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau. 6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau. 7 Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau. 8 Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail. 9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision. 10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion; 11 Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan: 12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl. 13 Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth. 14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision. 15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn. 16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant. 17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau. 18 Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt. 19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron. 20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd. 21 Bendithier yr Arglwydd o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.