Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 12-13

12 Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba. A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei holl ddyddiau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef. Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr Arglwydd, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr Arglwydd; Cymered yr offeiriaid hynny iddynt, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnag y caffer adwy ynddo. Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ. Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a’r offeiriaid eraill, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y tŷ? yn awr gan hynny, na dderbyniwch arian gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ. A’r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ. Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwll yn ei chaead, ac a’i gosododd hi o’r tu deau i’r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr Arglwydd: a’r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i dŷ yr Arglwydd. 10 A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a’r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd. 11 A hwy a roddasant yr arian wedi eu cyfrif, yn nwylo gweithwyr y gwaith, goruchwylwyr tŷ yr Arglwydd: a hwy a’i talasant i’r seiri pren, ac i’r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr Arglwydd. 12 Ac i’r seiri meini, ac i’r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nadd, i gyweirio adwyau tŷ yr Arglwydd, ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ. 13 Eto ni wnaed yn nhŷ yr Arglwydd gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr Arglwydd. 14 Eithr hwy a’i rhoddasant i weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant â hwynt dŷ yr Arglwydd. 15 Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon. 16 Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr Arglwydd: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy.

17 Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a’i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerwsalem. 18 A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosaffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a’i gysegredig bethau ef ei hun, a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.

19 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 20 A’i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila. 21 A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a’i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

13 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy.

A digofaint yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt. A Joahas a erfyniodd ar yr Arglwydd, a gwrandawodd yr Arglwydd arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a’u gorthrymai hwynt. (A’r Arglwydd a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt. Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddynt hwy: a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria.) Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt, ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu.

A’r rhan arall o hanes Joahas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? A Joahas a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

10 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. 11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt. 12 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 13 A Joas a hunodd gyda’i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel.

14 Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. 15 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau. 16 Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Dod dy law ar y bwa. Ac efe a roddodd ei law: ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin. 17 Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua’r dwyrain. Yntau a’i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymwared yr Arglwydd, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt. 18 Hefyd efe a ddywedodd, Cymer y saethau. Ac efe a’u cymerodd. Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Taro y ddaear. Ac efe a drawodd dair gwaith, ac a beidiodd. 19 A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria.

20 Ac Eliseus a fu farw, a hwy a’i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno. 21 A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyffwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed.

22 A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas. 23 A’r Arglwydd a drugarhaodd wrthynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drodd atynt hwy, er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn. 24 Felly Hasael brenin Syria a fu farw; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 25 A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael, y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel: Joas a’i trawodd ef dair gwaith, ac a ddug adref ddinasoedd Israel.

2 Cronicl 24

24 Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba. A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad. A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig: ac efe a genhedlodd feibion a merched.

Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr Arglwydd. Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid. A’r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr Arglwydd, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth? Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ Dduw; a holl gysegredig bethau tŷ yr Arglwydd a roesant hwy i Baalim. Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a’i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr Arglwydd oddi allan. A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i’r Arglwydd dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch. 10 A’r holl dywysogion a’r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i’r gist, nes gorffen ohonynt. 11 A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a’i chymryd hi, a’i dwyn drachefn i’w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer. 12 A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr Arglwydd; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr Arglwydd; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr Arglwydd. 13 Felly y gweithwyr a weithiasant, a’r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun, ac a’i cadarnhasant ef. 14 A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd, sef llestri y weinidogaeth, a’r morterau, a’r llwyau, a’r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.

15 Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw. 16 A hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at Dduw a’i dŷ. 17 Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy. 18 A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a’r delwau: a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn. 19 Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i’w troi hwynt at yr Arglwydd; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy. 20 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr Arglwydd, am hynny yntau a’ch gwrthyd chwithau. 21 A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd. 22 Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr Arglwydd, a gofynned.

23 Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus. 24 Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr, a’r Arglwydd a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn, am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas. 25 A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gydfwriadodd i’w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a’i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd. 26 A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef; Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes.

27 Am ei feibion ef, a maint y baich a roddwyd arno, a sylfaeniad tŷ Dduw, wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd. Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.