Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 18-22

18 Gwae y tir sydd yn cysgodi ag adenydd, yr hwn sydd tu hwnt i afonydd Ethiopia: Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd, mewn llestri brwyn, gan ddywedyd, Ewch, genhadon cyflym, at genhedlaeth wasgaredig ac ysbeiliedig, at bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenhedlaeth wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir. Holl drigolion y byd, a phreswylwyr y ddaear, gwelwch pan gyfodo efe faner ar y mynyddoedd, a chlywch pan utgano ag utgorn. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Byddaf lonydd, a mi a ystyriaf yn fy annedd, megis gwres eglur ar lysiau, fel niwl gwlith yng ngwres cynhaeaf. Canys o flaen cynhaeaf, pan fyddo y blodeuyn yn berffaith, a’r grawnwin surion yn aeddfedu yn y blodeuyn: efe a dyr y brig â chrymanau, ac a dynn ymaith ac a dyr y canghennau. Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y ddaear: ac arnynt y bwrw yr adar yr haf, a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt.

Yr amser hwnnw y dygir rhodd i Arglwydd y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenedl wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir, i le enw Arglwydd y lluoedd, sef i fynydd Seion.

19 Baich yr Aifft. Wele yr Arglwydd yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn, ac efe a ddaw i’r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol. Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr. A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd. A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech. A hwy a droant yr afonydd ymhell; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen. Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chwelir, ac ni bydd mwy. Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt. Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a’r rhai a weant rwydwaith. 10 A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.

11 Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd? 12 Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aifft. 13 Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft. 14 Cymysgodd yr Arglwydd ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa. 15 Ac ni bydd gwaith i’r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na’r gloren, y gangen na’r frwynen. 16 Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag ysgydwad llaw Arglwydd y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi. 17 A bydd tir Jwda yn arswyd i’r Aifft: pwy bynnag a’i cofia hi, a ofna ynddo ei hun; oherwydd cyngor Arglwydd y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.

18 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un. 19 Y dydd hwnnw y bydd allor i’r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi. 20 Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a’u gwared hwynt. 21 A’r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r Arglwydd, ac a’i talant. 22 Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft; efe a’i tery, ac a’i hiachâ; hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachâ hwynt.

23 A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i’r Aifft, a’r Eifftiad i Asyria: a’r Eifftiaid gyda’r Asyriaid a wasanaethant. 24 Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir: 25 Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.

20 Yn y flwyddyn y daeth Tartan i Asdod, pan ddanfonodd Sargon brenin Asyria ef, ac yr ymladdodd yn erbyn Asdod ac a’i henillodd hi; Yr amser hwnnw y bu gair yr Arglwydd trwy law Eseia mab Amos, gan ddywedyd, Dos, a datod y sachliain oddi am dy lwynau, a diosg dy esgidiau oddi am dy draed. Ac efe a wnaeth felly, gan rodio yn noeth, ac heb esgidiau. Dywedodd yr Arglwydd hefyd, Megis y rhodiodd fy ngwas Eseia yn noeth ac heb esgidiau dair blynedd yn arwydd ac yn argoel yn erbyn yr Aifft, ac yn erbyn Ethiopia; Felly yr arwain brenin Asyria gaethiwed yr Aifft, a chaethglud Ethiopia, sef yn llanciau a hynafgwyr, yn noethion ac heb esgidiau, ac yn dinnoeth, yn warth i’r Aifft. Brawychant a chywilyddiant o achos Ethiopia eu gobaith hwynt, ac o achos yr Aifft eu gogoniant hwy. A’r dydd hwnnw y dywed preswylwyr yr ynys hon, Wele, fel hyn y mae ein gobaith ni, lle y ffoesom am gymorth i’n gwared rhag brenin Asyria: a pha fodd y dihangwn?

21 Baich anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd; felly y daw o’r anialwch, o wlad ofnadwy. Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a’r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i’w holl riddfan hi ddarfod. Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled. Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a’m dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi. Paratoa y bwrdd, gwylia yn y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneiniwch y darian. Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dos, gosod wyliedydd, myneged yr hyn a welo. Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben. Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos. Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr. 10 O fy nyrniad, a chnwd fy llawr dyrnu! yr hyn a glywais gan Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegais i chwi.

11 Baich Duma, Arnaf fi y mae yn galw o Seir, Y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? 12 Dywedodd y gwyliedydd, Daeth y bore a’r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dychwelwch, deuwch.

13 Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim. 14 Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â’r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â’i fara. 15 Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant, rhag y cleddyf noeth, a rhag y bwa anelog, a rhag trymder rhyfel. 16 Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi, Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar: 17 A’r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar, a leiheir: canys Arglwydd Dduw Israel a’i dywedodd.

22 Baich glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti oll i nennau y tai? Ti yr hon wyt yn llawn terfysg, yn ddinas derfysgol, yn ddinas lawen: dy laddedigion ni laddwyd â chleddyf, na’th feirw mewn rhyfel. Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell. Am hynny y dywedais, Edrychwch oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl. Oherwydd diwrnod blinder yw, a mathru, a drysni, gan Arglwydd Dduw y lluoedd, yng nglyn gweledigaeth, yn difurio y gaer, ac yn gweiddi i’r mynydd. Elam hefyd a ddug y cawell saethau, mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch; Cir hefyd a ddinoethodd y darian. A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau, a’r gwŷr meirch a ymfyddinant tua’r porth.

Ac efe a ddinoethodd do Jwda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ’r goedwig. A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd, mai aml oeddynt; a chasglasoch ddyfroedd y pysgodlyn isaf. 10 Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau’r mur. 11 A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm. 12 A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu â sachliain: 13 Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta cig, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw. 14 A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

15 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed, 16 Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig? 17 Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost, a chan wisgo a’th wisg di. 18 Gan dreiglo y’th dreigla di, fel treiglo pêl i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr. 19 Yna y’th yrraf o’th sefyllfa, ac o’th sefyllfa y dinistria efe di.

20 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia: 21 A’th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac â’th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda. 22 Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro. 23 A mi a’i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad. 24 Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dad, hil ac epil; yr holl fân lestri; o’r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd. 25 Yn y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd arni; canys yr Arglwydd a’i dywedodd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.