Chronological
89 Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd. 90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif. 91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth. 92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd. 93 Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist. 94 Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais. 95 Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi. 96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.MEM
97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.NUN
105 Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr. 106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder. 107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air. 108 Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau. 109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith. 110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion. 111 Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt. 112 Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.SAMECH
113 Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais. 114 Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf. 115 Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy Nuw. 116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith. 117 Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol. 118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt. 119 Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau. 120 Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.AIN
121 Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr. 122 Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu. 123 Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder. 124 Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau. 125 Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau. 126 Amser yw i’r Arglwydd weithio: diddymasant dy gyfraith di. 127 Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth. 128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.PE
129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt. 130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar. 131 Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di. 132 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw. 133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf. 134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion. 135 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau. 136 Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.TSADI
137 Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau. 138 Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn. 139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di. 140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi. 141 Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion. 142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd. 143 Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch. 144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.COFF
145 Llefais â’m holl galon; clyw fi, O Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf. 146 Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau. 147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais. 148 Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di. 149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. 150 Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di. 151 Tithau, Arglwydd, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd. 152 Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.RESH
153 Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith. 154 Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air. 155 Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di. 156 Dy drugareddau, Arglwydd, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. 157 Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau. 158 Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di. 159 Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd. 160 Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.SCHIN
161 Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di. 162 Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer. 163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais. 164 Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau. 165 Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt. 166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd; a gwneuthum dy orchmynion. 167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt. 168 Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.TAU
169 Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air. 170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air. 171 Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau. 172 Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder. 173 Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais. 174 Hiraethais, O Arglwydd, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch. 175 Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi. 176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.