Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Samuel 5:1-10

Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni. Cyn hyn hefyd, pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel. Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.

Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe. Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.

A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma. Ond Dafydd a enillodd amddiffynfa Seion: honno yw dinas Dafydd. A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ. A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn. 10 A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac Arglwydd Dduw y lluoedd oedd gydag ef.

1 Cronicl 11-12

11 Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni. Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan: a dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel. A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Samuel.

A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir. A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion, yr hwn yw dinas Dafydd. A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf. A thrigodd Dafydd yn y tŵr: oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd. Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas. A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef.

10 Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd. 11 A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo. 12 Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o’r tri chadarn. 13 Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd, a’r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid. 14 A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a’i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.

15 A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 16 A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem. 17 A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth? 18 A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant ac a’i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd: 19 Ac efe a ddywedodd, Na ato fy Nuw i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.

20 Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o’r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri. 21 O’r tri, anrhydeddusach na’r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf. 22 Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. 23 Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun. 24 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn. 25 Wele, anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard.

26 A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, Elhanan mab Dodo o Bethlehem, 27 Sammoth yr Harodiad, Heles y Peloniad, 28 Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad, 29 Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad, 30 Maharai y Netoffathiad, Heled mab Baana y Netoffathiad, 31 Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, Benaia y Pirathoniad, 32 Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad, 33 Asmafeth y Baharumiad, Eliahba y Saalboniad, 34 Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad, 35 Ahïam mab Sachar yr Harariad, Eliffal mab Ur, 36 Heffer y Mecherathiad, Ahïa y Peloniad, 37 Hesro y Carmeliad, Naarai mab Esbai, 38 Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri, 39 Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia, 40 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 41 Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai, 42 Adina mab Sisa y Reubeniad, pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain, 43 Hanan mab Maacha, a Josaffat y Mithniad, 44 Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hothan yr Aroeriad, 45 Jediael mab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad, 46 Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad, 47 Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

12 A dyma y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag, ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis: a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn, cynorthwywyr y rhyfel, Yn arfogion â bwâu, yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin. Y pennaf oedd Ahieser, yna Joas, meibion Semaa y Gibeathiad, a Jesiel a Phelet meibion Asmafeth, a Beracha, a Jehu yr Anthothiad, Ac Ismaia y Gibeoniad, grymus oedd efe ymhlith y deg ar hugain, a goruwch y deg ar hugain; Jeremeia hefyd, a Jehasiel, a Johanan, a Josabad y Gederathiad, Elusai, a Jerimoth, a Bealeia, a Semareia, Seffatia yr Haruffiad. Elcana, a Jeseia, ac Asareel, a Joeser, a Jasobeam, y Corhiaid, A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor. A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy. Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd, 10 Mismanna y pedwerydd, Jeremeia y pumed, 11 Attai y chweched, Eliel y seithfed, 12 Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed, 13 Jeremeia y degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg. 14 Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a’r mwyaf ar fil. 15 Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua’r dwyrain, a thua’r gorllewin. 16 A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r amddiffynfa at Dafydd. 17 A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i’m bradychu i’m gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo. 18 A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin. 19 A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a’i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni. 20 Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a Michael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse. 21 A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu. 22 Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i’w gynorthwyo ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.

23 A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr Arglwydd. 24 O feibion Jwda, yn dwyn tarian a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yn arfog i ryfel. 25 O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant. 26 O feibion Lefi, pedair mil a chwe chant. 27 A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant. 28 Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid. 29 Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul. 30 Ac o feibion Effraim, ugain mil ac wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau. 31 Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin. 32 Ac o feibion Issachar, y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur, eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant, a’u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt. 33 O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon. 34 Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, â tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain. 35 Ac o’r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela. 36 Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela. 37 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o’r Reubeniaid, ac o’r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel. 38 Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a’r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin. 39 A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy. 40 A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.