Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 3-4

Salm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab.

Arglwydd, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn. Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw. Sela. Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen. A’m llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a’m cynhaliodd. Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn. Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.

I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.

Gwrando fi pan alwyf, O Dduw fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi. O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela. Ond gwybyddwch i’r Arglwydd neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno. Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela. Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr Arglwydd. Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb. Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt. Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.

Salmau 12-13

I’r Pencardd ar Seminith, Salm Dafydd.

12 Achub, Arglwydd; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion. Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant. Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus,a’r tafod a person ddywedo fawrhydi: Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni? Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo. Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith. Ti, Arglwydd, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd. Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

13 Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof? Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf? Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf. Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf.

Salmau 28

Salm Dafydd.

28 Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau. Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.

Salmau 55

I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.

55 Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. 10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi. 11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. 12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef: 13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, 14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd. 15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg. 16 Myfi a waeddaf ar Dduw; a’r Arglwydd a’m hachub i. 17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd. 18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi. 19 Duw a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw. 20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod. 21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion. 22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth. 23 Tithau, Dduw, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.