Chronological
8 Ac wedi hyn trawodd Dafydd y Philistiaid, ac a’u darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymaith Metheg‐amma o law y Philistiaid. 2 Ac efe a drawodd Moab, ac a’u mesurodd hwynt â llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fesurodd â dau linyn, i ladd; ac â llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac felly y Moabiaid fuant i Dafydd yn weision, yn dwyn treth.
3 Trawodd Dafydd hefyd Hadadeser mab Rehob, brenin Soba, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates. 4 A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd. 5 A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. 6 A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe. 7 Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. 8 O Beta hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadeser, y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres.
9 Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser; 10 Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a’i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo: 11 Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd, gyda’r arian a’r aur a gysegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe; 12 Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba. 13 A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg.
14 Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth efe. 15 A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl. 16 A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; 17 A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd: 18 Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion.
9 A Dafydd a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan? 2 Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe. 3 A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o’i draed. 4 A dywedodd y brenin wrtho, Pa le y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Ammïel, yn Lo‐debar.
5 Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dŷ Machir, mab Ammïel, o Lo‐debar. 6 A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Dafydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was.
7 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd â thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol. 8 Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit ar gi marw o’m bath i?
9 Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl dŷ ef, a roddais i fab dy feistr di. 10 A thi a erddi y tir iddo ef, ti, a’th feibion, a’th weision, ac a’u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision. 11 Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin. 12 Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a’i enw oedd Micha. A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu tŷ Siba oedd weision i Meffiboseth. 13 A Meffiboseth a drigodd yn Jerwsalem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o’i ddeudroed.
18 A darfu wedi hyn, i Dafydd daro’r Philistiaid, a’u darostwng hwynt, a dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philistiaid. 2 Hefyd efe a drawodd Moab; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth.
3 Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates. 4 A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd. 5 A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. 6 A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r Arglwydd a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth. 7 A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. 8 Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, â’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a’r colofnau, a’r llestri pres.
9 A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba; 10 Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.
11 Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd, gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec. 12 Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg.
13 Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.
14 A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl. 15 A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; 16 A Sadoc mab Ahitub, ac Abimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd; 17 Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.