Chronological
Salm Dafydd.
25 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 2 O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf. 3 Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. 4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau. 5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd. 6 Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy. 7 Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd. 8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. 9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig. 10 Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef. 11 Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddau fy anwiredd: canys mawr yw. 12 Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r Arglwydd? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso. 13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a’i had a etifedda y ddaear. 14 Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt. 15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd. 16 Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf. 17 Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau. 18 Gwêl fy nghystudd a’m helbul, a maddau fy holl bechodau. 19 Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant. 20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot. 21 Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthyt. 22 O Dduw, gwared Israel o’i holl gyfyngderau.
Salm Dafydd.
29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. 4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. 5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. 6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. 8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. 9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
33 Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr Arglwydd: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl. 2 Molwch yr Arglwydd â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant. 3 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus. 4 Canys uniawn yw gair yr Arglwydd; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb. 5 Efe a gâr gyfiawnder a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn. 6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef. 7 Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau. 8 Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef. 9 Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd. 10 Yr Arglwydd sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd. 11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth. 12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun. 13 Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion. 14 O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear. 15 Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd. 16 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder. 17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder. 18 Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef; 19 I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn. 20 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd: efe yw ein porth a’n tarian. 21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef. 22 Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas yr Arglwydd.
36 Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef. 2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas. 3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni. 4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni. 5 Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd. 7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. 8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. 9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni. 10 Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon. 11 Na ddeued troed balchder i’m herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi. 12 Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.
39 Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg. 2 Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd. 3 Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod. 4 Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi. 5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela. 6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl. 7 Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti. 8 Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd. 9 Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn. 10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i. 11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela. 12 Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau. 13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.