Chronological
Cân neu Salm Dafydd.
108 Parod yw fy nghalon, O Dduw: canaf a chanmolaf â’m gogoniant. 2 Deffro, y nabl a’r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore. 3 Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. 4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren. 5 Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear; 6 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. 7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. 8 Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr. 9 Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia. 10 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom? 11 Onid tydi, O Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda’n lluoedd? 12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn. 13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
109 Na thaw, O Dduw fy moliant. 2 Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn. 3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos. 4 Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi. 5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad. 6 Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef. 7 Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod. 8 Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef. 9 Bydded ei blant yn amddifaid, a’i wraig yn weddw. 10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd. 11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef. 12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef. 13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf. 14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd; ac na ddileer pechod ei fam ef. 15 Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir: 16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd. 17 Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho. 18 Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn. 19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol. 20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid. 21 Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi. 22 Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn. 23 Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir. 24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster. 25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau. 26 Cynorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd: 27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, Arglwydd, a’i gwnaethost. 28 Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was. 29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl. 30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer. 31 Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
Salm Dafydd.
110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. 2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. 3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. 4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. 5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. 6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. 7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.