Chronological
Salm Dafydd.
26 Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf. 2 Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. 3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. 4 Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. 5 Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. 6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf: 7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. 8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant. 9 Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd: 10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau. 11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf. 12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O Arglwydd.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
40 Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain. 2 Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad. 3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd. 4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd. 5 Lluosog y gwnaethost ti, O Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo. 6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist. 7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf. 8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon. 9 Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, Arglwydd, a’i gwyddost. 10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog. 11 Tithau, Arglwydd, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth. 12 Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf. 13 Rhynged bodd i ti, Arglwydd, fy ngwaredu: brysia, Arglwydd, i’m cymorth. 14 Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg. 15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha. 16 Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr Arglwydd. 17 Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; eto yr Arglwydd a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti; fy Nuw, na hir drig.
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd.
58 Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, O feibion dynion? 2 Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear. 3 O’r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd. 4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau; 5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr. 6 Dryllia, O Dduw, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O Arglwydd, gilddannedd y llewod ieuainc. 7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri. 8 Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul. 9 Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint. 10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol. 11 Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
61 Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi. 2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi. 3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. 4 Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela. 5 Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw. 6 Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer. 7 Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef. 8 Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Dafydd.
62 Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth. 2 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth, a’m hamddiffyn; ni’m mawr ysgogir. 3 Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd. 4 Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd; hoffasant gelwydd: â’u geneuau y bendithiant, ond o’u mewn y melltithiant. Sela. 5 O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith. 6 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir. 7 Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn Nuw. 8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Sela. 9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi. 10 Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno. 11 Unwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo Duw yw cadernid. 12 Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O Arglwydd: canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
64 Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn. 2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd: 3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon: 4 I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant. 5 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a’u gwêl hwynt? 6 Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn. 7 Eithr Duw a’u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt. 8 Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a’u gwelo a gilia. 9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef. 10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.