Chronological
Maschil Ethan yr Esrahiad.
89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. 2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. 3 Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. 4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela. 5 A’r nefoedd, O Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint. 6 Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r Arglwydd? pwy a gyffelybir i’r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn? 7 Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd. 8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Iôr? a’th wirionedd o’th amgylch? 9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi. 10 Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion. 11 Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder. 12 Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw. 13 Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw. 14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb. 15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy. 16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant. 17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni. 18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin. 19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl. 20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth. 27 Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear. 28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo. 29 Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd. 30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau; 31 Os fy neddfau a halogant, a’m gorchmynion ni chadwant: 32 Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen, ac â’u hanwiredd â ffrewyllau. 33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o’m gwirionedd. 34 Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau. 35 Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd. 36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i. 37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela. 38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog. 39 Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr. 40 Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau. 41 Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion. 42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion. 43 Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel. 44 Peraist i’w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr. 45 Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela. 46 Pa hyd, Arglwydd, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân? 47 Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer? 48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela. 49 Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd? 50 Cofia, O Arglwydd, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion; 51 A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O Arglwydd; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog. 52 Bendigedig fyddo yr Arglwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.
96 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. 3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. 4 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. 5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. 6 Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. 7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 8 Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd. 9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef. 10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn. 11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder. 12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant. 13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Salm Dafydd.
101 Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf. 2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. 3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi. 4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus. 5 Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef. 6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i. 7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd. 8 Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. 7 Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. 8 Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: 9 Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. 12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi: 13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall: 14 Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid; 15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi. 16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara. 17 Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was. 18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn: 19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr Arglwydd a’i profodd ef. 20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a’i rhyddhaodd ef. 21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth: 22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef. 23 Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham. 24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr. 25 Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision. 26 Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai. 27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham. 28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef. 29 Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod. 30 Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd. 31 Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt. 32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir. 33 Trawodd hefyd eu gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt. 34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif; 35 Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt. 36 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt. 37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. 38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. 39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. 40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol. 41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd. 42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was. 43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd. 44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd. 45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
Caniad y graddau.
132 O Arglwydd, cofia Dafydd, a’i holl flinder; 2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob: 3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely; 4 Ni roddaf gwsg i’m llygaid, na hun i’m hamrantau, 5 Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob. 6 Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed. 7 Awn i’w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef. 8 Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid. 9 Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint. 10 Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog. 11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc. 12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc. 13 Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun. 14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi. 15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara. 16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant. 17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i’m Heneiniog. 18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.