Chronological
7 Aphan eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r Arglwydd lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch: 2 Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau. 3 A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: canys yr Arglwydd sydd gyda thi.
4 A bu, y noson honno, i air yr Arglwydd ddyfod at Nathan, gan ddywedyd, 5 Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanheddwyf fi? 6 Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl. 7 Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? 8 Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel. 9 A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear. 10 Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt; 11 Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r Arglwydd sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti.
12 A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef. 13 Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth. 14 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion: 15 Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di. 16 A’th dŷ di a sicrheir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth. 17 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
18 Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? 19 Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd Dduw; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd Dduw? 20 A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd Dduw. 21 Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was eu gwybod. 22 Am hynny y’th fawrhawyd, O Arglwydd Dduw; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau. 23 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau? 24 Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, ydwyt iddynt hwy yn Dduw. 25 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, cwblha byth y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist. 26 A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd sydd Dduw ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di. 27 Canys ti, O Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon. 28 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, tydi sydd Dduw, a’th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn. 29 Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd Dduw, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd.
17 A phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr Arglwydd dan gortynnau. 2 Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae Duw gyda thi.
3 A’r noson honno y daeth gair Duw at Nathan, gan ddywedyd, 4 Dos, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo. 5 Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac o dabernacl bwygilydd. 6 Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? 7 Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel. 8 A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear. 9 Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf, 10 Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ.
11 A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibion di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef. 12 Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth. 13 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di. 14 Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i deyrngadair ef a sicrheir byth. 15 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
16 A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? 17 Eto bychan yw hyn yn dy olwg di, O Dduw; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O Arglwydd Dduw, fel ar gyflwr dyn uchelradd. 18 Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was. 19 O Arglwydd, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd. 20 O Arglwydd, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom â’n clustiau. 21 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aifft? 22 Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, a aethost yn Dduw iddynt hwy. 23 Am hynny yr awr hon, Arglwydd, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist. 24 A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di. 25 Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i’th was, yr adeiladit ti dŷ iddo ef: am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di. 26 Ac yr awr hon, Arglwydd, ti ydwyt Dduw, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn; 27 Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O Arglwydd, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.