Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 5

I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.

Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf. Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen. Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod. 10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn. 11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot. 12 Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.

Salmau 38

Salm Dafydd, er coffa.

38 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd. Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf. Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod. Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd. Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus. Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon. O’th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt. 10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf. 11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell. 12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd. 13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau. 14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau. 15 Oherwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd; ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi. 16 Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn. 17 Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad. 18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod. 19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam. 20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni. 21 Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf. 22 Brysia i’m cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.

Salmau 41-42

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

41 Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr Arglwydd a’i gwared ef yn amser adfyd. Yr Arglwydd a’i ceidw, ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion. Yr Arglwydd a’i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd. Mi a ddywedais, Arglwydd, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn. Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef? Ac os daw i’m hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i traetha. Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi. Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy. Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn. 10 Eithr ti, Arglwydd, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt. 11 Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn. 12 Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd. 13 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.

I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.

42 Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw? Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes. Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.