Chronological
26 Am ddosbarthiad y porthorion: O’r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core, o feibion Asaff. 2 A meibion Meselemia oedd, Sechareia y cyntaf‐anedig, Jediael yr ail, Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd, 3 Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed. 4 A meibion Obed‐edom; Semaia y cyntaf‐anedig, Jehosabad yr ail, Joa y trydydd, a Sachar y pedwerydd, a Nethaneel y pumed, 5 Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr wythfed: canys Duw a’i bendithiodd ef. 6 Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion, y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tad: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy. 7 Meibion Semaia; Othni, a Reffael, ac Obed, Elsabad; ei frodyr ef oedd wŷr nerthol, sef Elihu, a Semacheia. 8 Y rhai hyn oll o feibion Obed‐edom: hwynt‐hwy, a’u meibion, a’u brodyr, yn wŷr nerthol mewn cryfder, tuag at y weinidogaeth, oedd drigain a dau o Obed‐edom. 9 Ac i Meselemia, yn feibion ac yn frodyr, yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol. 10 O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf‐anedig, eto ei dad a’i gosododd ef yn ben;) 11 Hilceia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg. 12 Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion, sef ymhlith y penaethiaid, ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr Arglwydd.
13 A hwy a fwriasant goelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bob porth. 14 A choelbren Selemeia a syrthiodd tua’r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a’i goelbren ef a ddaeth tua’r gogledd. 15 I Obed‐edom tua’r deau, ac i’w feibion, y daeth tŷ Asuppim. 16 I Suppim, a Hosa, tua’r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall. 17 Tua’r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua’r gogledd pedwar beunydd, tua’r deau pedwar beunydd, a thuag Asuppim dau a dau. 18 A Pharbar tua’r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Parbar. 19 Dyma ddosbarthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.
20 Ac o’r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw, ac ar drysorau y pethau cysegredig. 21 Am feibion Laadan: meibion y Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Gersoniad, oedd Jehieli. 22 Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr Arglwydd. 23 O’r Amramiaid, a’r Ishariaid, o’r Hebroniaid, a’r Ussieliaid: 24 A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau. 25 A’i frodyr ef o Eleasar; Rehabia ei fab ef, a Jesaia ei fab yntau, a Joram ei fab yntau, a Sichri ei fab yntau, a Selomith ei fab yntau. 26 Y Selomith hwnnw a’i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a’r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a thywysogion y llu. 27 O’r rhyfeloedd ac o’r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr Arglwydd. 28 A’r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, a Joab mab Serfia, a phwy bynnag a gysegrasai ddim, yr oedd efe dan law Selomith a’i frodyr.
29 O’r Ishariaid, Chenaneia a’i feibion oedd yn Israel yn swyddogion, ac yn farnwyr, ar y gwaith oddi allan. 30 O’r Hebroniaid, Hasabeia a’i frodyr, meibion nerthol, mil a saith gant, oedd mewn swydd yn Israel, o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, yn holl waith yr Arglwydd, ac yng ngwasanaeth y brenin. 31 O’r Hebroniaid, Jereia oedd ben o’r Hebroniaid, yn ôl cenedlaethau ei dadau: yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, a chafwyd yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol, yn Jaser Gilead. 32 A’i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau‐cenedl: a Dafydd y brenin a’u gosododd hwynt ar y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ym mhob gorchwyl Duw, a gorchwyl y brenin.
27 Pedair mil ar hugain oedd pob dosbarthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennau‐cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn. 2 Ar y dosbarthiad cyntaf, dros y mis cyntaf, yr oedd Jasobeam mab Sabdiel; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain. 3 O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf. 4 Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad, ac o’i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 5 Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 6 Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain, ac oddi ar y deg ar hugain; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef. 7 Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab, a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 8 Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog, Samhuth yr Israhiad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 9 Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 10 Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Peloniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 11 Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 12 Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad, o’r Benjaminiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 13 Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 14 Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 15 Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
16 Ac ar lwythau Israel: ar y Reubeniaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha: 17 Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc: 18 Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael: 19 Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel: 20 Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab Pedaia: 21 Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner: 22 Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel.
23 Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr Arglwydd yr amlhâi efe Israel megis sêr y nefoedd. 24 Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd.
25 Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia. 26 Ac ar weithwyr y maes, y rhai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab Celub. 27 Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad. 28 Ac ar yr olewydd, a’r sycamorwydd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd Baalhanan y Gederiad: ac ar y selerau olew yr oedd Joas. 29 Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron, yr oedd Sitrai y Saroniad: ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saffat mab Adlai. 30 Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad: ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad. 31 Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo y brenin Dafydd. 32 A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr, gŵr doeth, ac ysgrifennydd: Jehiel hefyd mab Hachmom oedd gyda meibion y brenin. 33 Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin. 34 Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin oedd Joab.
28 A Dafydd a gynullodd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwythau, a thywysogion y dosbarthiadau, y rhai oedd yn gwasanaethu’r brenin, tywysogion y miloedd hefyd, a thywysogion y cannoedd, a thywysogion holl olud a meddiant y brenin, a’i feibion, gyda’r ystafellyddion, a’r cedyrn, a phob un grymusol o nerth, i Jerwsalem. 2 A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a’m pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr Arglwydd, ac i ystôl draed ein Duw ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu. 3 Ond Duw a ddywedodd wrthyf, Nid adeiledi di dŷ i’m henw i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist. 4 Er hynny Arglwydd Dduw Israel a’m hetholodd i o holl dŷ fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel: 5 Ac o’m holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd, ar Israel. 6 Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a’m cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad. 7 A’i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a’m barnedigaethau i, megis y dydd hwn. 8 Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr Arglwydd, a lle y clywo ein Duw ni, cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr Arglwydd eich Duw, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.
9 A thithau Solomon fy mab, adnebydd Dduw dy dad, a gwasanaetha ef â chalon berffaith, ac â meddwl ewyllysgar: canys yr Arglwydd sydd yn chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. 10 Gwêl yn awr mai yr Arglwydd a’th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr: ymgryfha, a gwna.
11 Yna y rhoddes Dafydd i Solomon ei fab bortreiad y porth, a’i dai, a’i selerau, a’i gellau, a’i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa, 12 A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr Arglwydd, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ Dduw, ac am drysorau y pethau cysegredig: 13 Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr Arglwydd. 14 Efe a roddes o aur wrth bwys, i’r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i’r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth: 15 Sef pwys y canwyllbrenni aur, a’u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyllbren ac i’w lampau: ac i’r canwyllbrennau arian wrth bwys, i’r canhwyllbren ac i’w lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren. 16 Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i’r byrddau arian; 17 Ac aur pur i’r cigweiniau, ac i’r ffiolau, ac i’r dysglau, ac i’r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i’r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch; 18 Ac i allor yr arogl‐darth, aur pur wrth bwys; ac aur i bortreiad cerbyd y ceriwbiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchuddio arch cyfamod yr Arglwydd. 19 Hyn oll, ebe Dafydd, a wnaeth yr Arglwydd i mi ei ddeall mewn ysgrifen, trwy ei law ef arnaf fi, sef holl waith y portreiad hwn. 20 A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfha, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac nac arswyda: canys yr Arglwydd Dduw, fy Nuw i, fydd gyda thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorffen holl waith gwasanaeth tŷ yr Arglwydd. 21 Wele hefyd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, i holl wasanaeth tŷ Dduw, a chyda thi y maent yn yr holl waith, a phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd a’r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl.
29 Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r Arglwydd Dduw. 2 Ac â’m holl gryfder y paratoais i dŷ fy Nuw, aur i’r gwaith aur, ac arian i’r arian, a phres i’r pres, a haearn i’r haearn, a choed i’r gwaith coed; meini onics, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml. 3 Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy Nuw, y mae gennyf o’m heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tuag at dŷ fy Nuw; heblaw yr hyn oll a baratoais tua’r tŷ sanctaidd: 4 Tair mil o dalentau aur, o aur Offir; a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai: 5 Yr aur i’r gwaith aur, a’r arian i’r arian; a thuag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i’r Arglwydd?
6 Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin, a offrymasant yn ewyllysgar, 7 Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ Dduw, bum mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chan mil o dalentau haearn. 8 A chyda’r hwn y ceid meini, hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr Arglwydd, trwy law Jehiel y Gersoniad. 9 A’r bobl a lawenhasant pan offryment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r Arglwydd: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.
10 Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. 11 I ti, Arglwydd, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, Arglwydd, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth. 12 Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim. 13 Ac yn awr, ein Duw ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus. 14 Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o’th law dy hun y rhoesom i ti. 15 Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros. 16 O Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd, o’th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll. 17 Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd. 18 Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti. 19 A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a’th ddeddfau, ac i’w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo.
20 Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr Arglwydd eich Duw. A’r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i’r Arglwydd, ac i’r brenin. 21 Aberthasant hefyd ebyrth i’r Arglwydd, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymmau i’r Arglwydd, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o ŵyn, a’u diod‐offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel: 22 Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i’r Arglwydd yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad. 23 Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno. 24 Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin. 25 A’r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel.
26 Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel. 27 A’r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 28 Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 29 Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd, 30 Gyda’i holl frenhiniaeth ef, a’i gadernid, a’r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.
Caniad y graddau, i Solomon.
127 Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. 2 Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. 3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. 4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. 5 Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.