Chronological
30 Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal. 2 Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf. 3 Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd. 4 Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost? 5 Holl air Duw sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo. 6 Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog. 7 Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na omedd hwynt i mi cyn fy marw. 8 Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â’m digonedd o fara. 9 Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr Arglwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer. 10 Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog. 11 Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia. 12 Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid. 13 Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw ei llygaid! a’i hamrantau a ddyrchafwyd. 14 Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau, a’i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a’r anghenus o blith dynion. 15 I’r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon: 16 Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a’r tân ni ddywed, Digon. 17 Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a’r cywion eryrod a’i bwyty. 18 Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen: 19 Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn. 20 Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd. 21 Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef: 22 Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd; 23 Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres. 24 Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn: 25 Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf; 26 Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig; 27 Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd; 28 Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin. 29 Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus: 30 Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb; 31 Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn. 32 Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau. 33 Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.
31 Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. 2 Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau? 3 Na ddyro i wragedd dy nerth; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd. 4 Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn: 5 Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig. 6 Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon. 7 Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy. 8 Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr. 9 Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus.
10 Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl. 11 Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith. 12 Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. 13 Hi a gais wlân a llin, ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar. 14 Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell. 15 Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau. 16 Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan. 17 Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau. 18 Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos. 19 Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail. 20 Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus. 21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad. 22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor. 23 Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad. 24 Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr. 25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd. 26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi. 27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd. 28 Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi: 29 Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll. 30 Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod. 31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.