Chronological
9 A phan orffennodd Solomon adeiladu tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a chwbl o ddymuniad Solomon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur; 2 Yr Arglwydd a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr ymddangosasai iddo yn Gibeon. 3 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol. 4 Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau: 5 Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel. 6 Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: 7 Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy; a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw, a fwriaf allan o’m golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd: 8 A’r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweiro heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwibana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ yma? 9 A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.
10 Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, 11 (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea. 12 A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef. 13 Ac efe a ddywedodd, Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a’u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn. 14 A Hiram a anfonodd i’r brenin chwech ugain talent o aur.
15 A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr Arglwydd, a’i dŷ ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser. 16 Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a’i llosgasai hi â thân, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a’i rhoddasai hi yn anrheg i’w ferch, gwraig Solomon. 17 A Solomon a adeiladodd Geser, a Beth‐horon isaf, 18 A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad, 19 A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a’r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth. 20 Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feibion Israel; 21 Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd; ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn. 22 Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch. 23 Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.
24 A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i’w thŷ ei hun, yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi: yna efe a adeiladodd Milo.
25 A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i’r Arglwydd: ac efe a arogldarthodd ar yr allor oedd gerbron yr Arglwydd. Felly efe a orffennodd y tŷ.
26 A’r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion‐gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad Edom. 27 A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon. 28 A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur, ac a’u dygasant at y brenin Solomon.
8 Ac ymhen yr ugain mlynedd, yn y rhai yr adeiladodd Solomon dŷ yr Arglwydd, a’i dŷ ei hun, 2 Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon, ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno. 3 A Solomon a aeth i Hamath-soba, ac a’i gorchfygodd hi. 4 Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a holl ddinasoedd y trysorau, y rhai a adeiladodd efe yn Hamath. 5 Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf, a Beth-horon isaf, dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau, pyrth, a barrau; 6 Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon, a holl ddinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion, a’r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef.
7 Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o Israel; 8 Ond o’u meibion hwynt, y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni ddifethasai meibion Israel, Solomon a’u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn. 9 Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr, a thywysogion ei gapteiniaid ef, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch ef. 10 A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon, sef dau cant a deg a deugain, yn arglwyddiaethu ar y bobl.
11 A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo.
12 Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r Arglwydd ar allor yr Arglwydd, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth; 13 I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.
14 Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw. 15 Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau. 16 A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr Arglwydd, a hyd oni orffennwyd ef. Felly y gorffennwyd tŷ yr Arglwydd.
17 Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber, ac i Eloth, ar fin y môr, yng ngwlad Edom. 18 A Hiram a anfonodd gyda’i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir, ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur, ac a’u dygasant i’r brenin Solomon.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.