Chronological
7 Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi. 2 Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad. 3 Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon. 4 Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares: 5 Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â’r ymadrodd gwenieithus.
6 Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt, 7 A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo, 8 Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi, 9 Yn y cyfnos gyda’r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll: 10 Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar. 11 (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ: 12 Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.) 13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a’i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho, 14 Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned: 15 Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat. 16 Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft. 17 Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon. 18 Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad. 19 Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell: 20 Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol. 21 Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef. 22 Efe a’i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i’r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi: 23 Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.
24 Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau. 25 Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi. 26 Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer a laddodd hi. 27 Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.
8 Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain? 2 Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll. 3 Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain: 4 Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais. 5 Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus. 6 Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn. 7 Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni. 8 Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd. 9 Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth. 10 Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig. 11 Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi. 12 Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor. 13 Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi. 14 Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth. 15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder. 16 Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear. 17 Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt. 18 Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder. 19 Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig. 20 Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn: 21 I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau. 22 Yr Arglwydd a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed. 23 Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear. 24 Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd. 25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd: 26 Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd. 27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder: 28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder: 29 Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear: 30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser; 31 Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion. 32 Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i. 33 Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi. 34 Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i. 35 Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd. 36 Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.
9 Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn. 2 Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd. 3 Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas: 4 Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd, 5 Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais. 6 Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall. 7 Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf. 8 Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di. 9 Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall. 11 Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes. 12 Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a’i dygi.
13 Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim: 14 Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas, 15 I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn: 16 Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy bynnag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho, 17 Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd. 18 Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.