Chronological
19 A Jehosaffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch. 2 A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casáu yr Arglwydd, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr Arglwydd sydd arnat ti. 3 Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o’r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw. 4 A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a’u dug hwynt eilwaith at Arglwydd Dduw eu tadau.
5 Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd; 6 Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn. 7 Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda’r Arglwydd ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.
8 A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid, ac o’r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr Arglwydd, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem. 9 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith. 10 A pha amrafael bynnag a ddêl atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr Arglwydd, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch. 11 Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i’r Arglwydd; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i’r brenin; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a’r Arglwydd fydd gyda’r daionus.
20 Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel. 2 Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi. 3 A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda. 4 A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio’r Arglwydd.
5 A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ yr Arglwydd, o flaen y cyntedd newydd, 6 Ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw ein tadau, onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di? 7 Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel, ac a’i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd? 8 A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i’th enw, gan ddywedyd, 9 Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni. 10 Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt: 11 Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i’n bwrw ni allan o’th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu. 12 O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid. 13 A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, â’u rhai bach, eu gwragedd, a’u plant.
14 Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa. 15 Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo Dduw. 16 Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel. 17 Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr Arglwydd tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a’r Arglwydd fydd gyda chwi. 18 A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr Arglwydd, gan addoli yr Arglwydd. 19 A’r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel â llef uchel ddyrchafedig.
20 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddywedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr Arglwydd eich Duw, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch. 21 Ac efe a ymgynghorodd â’r bobl, ac a osododd gantorion i’r Arglwydd, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr Arglwydd, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
22 Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant, y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd. 23 Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i’w difrodi, ac i’w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd. 24 A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch, hwy a edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear, ac heb un dihangol. 25 A phan ddaeth Jehosaffat a’i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt, hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud, gyda’r cyrff meirw, a thlysau dymunol, yr hyn a ysglyfaethasant iddynt, beth anfeidrol: a thridiau y buant yn ysglyfaethu yr ysbail; canys mawr oedd.
26 Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith; canys yno y bendithiasant yr Arglwydd: am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith, hyd heddiw. 27 Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr Arglwydd a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion. 28 A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau, a thelynau, ac utgyrn, i dŷ yr Arglwydd. 29 Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr Arglwydd yn erbyn gelynion Israel. 30 Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd: canys ei Dduw a roddodd iddo lonyddwch o amgylch.
31 A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda: mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi. 32 Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad, ac ni chiliodd oddi wrthi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. 33 Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith: canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at Dduw eu tadau. 34 A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat, wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani, yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel.
35 Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel, yr hwn a ymroddasai i ddrygioni. 36 Ac efe a unodd ag ef ar wneuthur llongau i fyned i Tarsis: a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber. 37 Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat, gan ddywedyd, Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia, yr Arglwydd a ddrylliodd dy waith di. A’r llongau a ddrylliwyd, fel na allasant fyned i Tarsis.
21 A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. A Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 2 Ac iddo ef yr oedd brodyr, meibion Jehosaffat; Asareia, a Jehiel, a Sechareia, ac Asareia, a Michael, a Seffatia: y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaffat brenin Israel. 3 A’u tad a roddodd iddynt roddion lawer, o arian, ac aur, a gwerthfawr bethau, gyda dinasoedd caerog yn Jwda: ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Jehoram, canys efe oedd y cyntaf-anedig. 4 A Jehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad, ac a ymgadarnhaodd, ac a laddodd ei holl frodyr â’r cleddyf, a rhai hefyd o dywysogion Israel.
5 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd Jehoram pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 6 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnaethai tŷ Ahab; canys merch Ahab oedd wraig iddo: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 7 Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha tŷ Dafydd, er mwyn y cyfamod a amodasai efe â Dafydd, fel y dywedasai, y rhoddai efe iddo oleuni ac i’w feibion byth.
8 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hun. 9 A Jehoram a aeth allan, a’i dywysogion, a’i holl gerbydau gydag ef: ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid, y rhai oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau. 10 Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn: a gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef: oherwydd iddo ymwrthod ag Arglwydd Dduw ei dadau. 11 Efe hefyd a wnaeth uchelfeydd ym mynyddoedd Jwda, ac a wnaeth i drigolion Jerwsalem buteinio, ac a gymhellodd Jwda i hynny.
12 A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad, nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda; 13 Eithr rhodio ohonot yn ffordd brenhinoedd Israel, a gwneuthur ohonot i Jwda ac i drigolion Jerwsalem buteinio, fel y puteiniodd tŷ Abab, a lladd ohonot dy frodyr hefyd o dŷ dy dad, y rhai oedd well na thydi: 14 Wele, yr Arglwydd a dery â phla mawr dy bobl di, a’th blant, a’th wragedd, a’th holl olud. 15 A thi a gei glefyd mawr, clefyd o’th ymysgaroedd, nes myned o’th goluddion allan gan y clefyd, o ddydd i ddydd.
16 Felly yr Arglwydd a gyffrôdd yn erbyn Jehoram ysbryd y Philistiaid, a’r Arabiaid, y rhai oedd gerllaw yr Ethiopiaid: 17 A hwy a ddaethant i fyny i Jwda, ac a’i drylliasant hi, ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhŷ’r brenin, a’i feibion hefyd a’i wragedd; fel na adawyd mab iddo, ond Jehoahas, yr ieuangaf o’i feibion.
18 Ac wedi hyn oll yr Arglwydd a’i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele. 19 A bu, ar ôl talm o ddyddiau, ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd, ei ymysgaroedd ef a aeth allan gan ei glefyd: felly y bu efe farw o glefydau drwg. A’i bobl ni wnaethant iddo gynnau, megis cynnau ei dadau. 20 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano: a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhinoedd.
22 A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef: canys y fyddin a ddaethai gyda’r Arabiaid i’r gwersyll, a laddasai y rhai hynaf oll. Felly Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a deyrnasodd. 2 Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia merch Omri. 3 Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg. 4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i’w ddinistr ef.
5 Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel, yn erbyn Hasael brenin Syria, yn Ramoth-Gilead: a’r Syriaid a drawsant Joram. 6 Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion â’r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe. 7 A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth Dduw, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr Arglwydd i dorri ymaith dŷ Ahab. 8 A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Jwda, a meibion brodyr Ahaseia, y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia, ac efe a’u lladdodd hwynt. 9 Ac efe a geisiodd Ahaseia; a hwy a’i daliasant ef, (canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria;) a hwy a’i dygasant ef at Jehu: lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dywedasant, Mab Jehosaffat yw efe, yr hwn a geisiodd yr Arglwydd â’i holl galon. Felly nid oedd gan dŷ Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas.
10 Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda. 11 Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a’i rhoddodd ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau. Felly Josabea merch y brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaseia ydoedd hi,) a’i cuddiodd ef rhag Athaleia, fel na laddodd hi ef. 12 Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ Dduw chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.
23 Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod. 2 A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem. 3 A’r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â’r brenin yn nhŷ Dduw: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr Arglwydd am feibion Dafydd. 4 Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, yr rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid, fydd yn borthorion i’r trothwyau; 5 A’r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a’r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a’r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr Arglwydd. 6 Ac na ddeled neb i dŷ yr Arglwydd, ond yr offeiriaid, a’r gweinidogion o’r Lefiaid; deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr Arglwydd. 7 A’r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â’i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i’r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda’r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan. 8 A’r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.) 9 A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a’r tarianau, a’r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ Dduw. 10 Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â’i arf yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ hyd y tu aswy i’r tŷ, ynghylch yr allor a’r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch. 11 Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a’r dystiolaeth, ac a’i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a’i feibion a’i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.
12 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr Arglwydd. 13 A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a’r cantorion ag offer cerdd, a’r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth! 14 A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o’r rhesau: a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd. 15 A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua’r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.
16 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i’r Arglwydd. 17 Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a’i distrywiasant ef, a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor. 18 A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr Arglwydd, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd, i offrymu poethoffrymau yr Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd. 19 Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr Arglwydd, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll. 20 Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a’r pendefigion, a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr Arglwydd: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth. 21 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia â’r cleddyf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.