Chronological
19 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl. 2 Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a’r hwn sydd brysur ei draed a becha. 3 Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd. 4 Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog. 5 Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc. 6 Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael. 7 Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato. 8 A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni. 9 Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir. 10 Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid. 11 Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd. 12 Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt. 13 Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus. 14 Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog. 15 Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna. 16 Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw. 17 Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r Arglwydd; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn. 18 Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha. 19 Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn. 20 Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd. 21 Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr Arglwydd, hwnnw a saif. 22 Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog. 23 Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef. 24 Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau. 25 Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth. 26 Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr. 27 Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth. 28 Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd. 29 Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.
20 Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth. 2 Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun. 3 Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth. 4 Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim. 5 Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan. 6 Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon? 7 Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef. 8 Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg. 9 Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod? 10 Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o’r ddau. 11 Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith. 12 Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o’r ddau. 13 Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara. 14 Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia. 15 Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr. 16 Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones. 17 Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean. 18 Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela. 19 Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau. 20 Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du. 21 Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir. 22 Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a’th achub. 23 Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda. 24 Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun? 25 Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn. 26 Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt. 27 Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol. 28 Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd. 29 Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn. 30 Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.
21 Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd: efe a’i try hi lle y mynno. 2 Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau. 3 Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth. 4 Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod. 5 Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig. 6 Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau. 7 Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn. 8 Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith. 9 Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang. 10 Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef. 11 Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth. 12 Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni. 13 Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef. 14 Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf. 15 Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd. 16 Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw. 17 Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a’r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog. 18 Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a’r troseddwr dros yr uniawn. 19 Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda gwraig anynad ddicllon. 20 Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt. 21 Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd. 22 Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno. 23 Y neb a gadwo ei enau a’i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder. 24 Y balch a’r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch. 25 Deisyfiad y diog a’i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio: 26 Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed. 27 Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg? 28 Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad. 29 Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd. 30 Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr Arglwydd. 31 Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.