Chronological
1 Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; 2 I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; 3 I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; 4 I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr. 5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog: 6 I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.
7 Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg. 8 Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam: 9 Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.
10 Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna. 11 Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos: 12 Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew: 13 Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail: 14 Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd: 15 Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy. 16 Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed. 17 Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain. 18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu. 19 Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
20 Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd: 21 Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd, 22 Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth? 23 Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
24 Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried; 25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd: 26 Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni; 27 Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi: 28 Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt: 29 Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant: 30 Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd. 31 Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain. 32 Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha. 33 Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.
2 Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; 2 Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; 3 Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; 4 Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; 5 Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw. 6 Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. 7 Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn. 8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint. 9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.
10 Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth; 11 Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw: 12 I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd; 13 Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch; 14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus; 15 Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau: 16 I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau; 17 Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw. 18 Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw. 19 Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd. 20 Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn. 21 Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gânt aros ynddi. 22 Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.
3 Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion: 2 Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti. 3 Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. 4 Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion.
5 Gobeithia yn yr Arglwydd â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. 6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr Arglwydd, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni. 8 Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.
9 Anrhydedda yr Arglwydd â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth: 10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.
11 Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef; 12 Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.
13 Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan. 14 Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth. 15 Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi. 16 Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. 17 Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch. 18 Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi. 19 Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd. 20 Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.
21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll. 22 Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf. 23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda. 24 Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys. 25 Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo. 26 Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.
27 Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur. 28 Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr. 29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.
30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.
31 Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef. 32 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.
33 Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.
34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig. 35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.