Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 10-12

10 A Rehoboam a aeth i Sichem; canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin. A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o’r Aifft. Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent amdano ef. A Jeroboam a holl Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd, Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, a ni a’th wasanaethwn di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith.

A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn? A hwy a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Os byddi yn dda i’r bobl yma, a’u bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau teg, hwy a fyddant yn weision i ti byth. Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni? 10 A’r gwŷr ieuainc y rhai a gynyddasent gydag ef a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom, ysgafnha dithau hi oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad. 11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd chwi â iau drom, minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf ag ysgorpionau. 12 Yna y daeth Jeroboam, a’r holl bobl, at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd. 13 A’r brenin a’u hatebodd hwynt yn arw: a’r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid; 14 Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf arni hi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau. 15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: oherwydd yr achos oedd oddi wrth Dduw, fel y cwblhâi yr Arglwydd ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

16 A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, aed pawb i’w pebyll, edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly holl Israel a aethant i’w pebyll. 17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. 18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram, yr hwn oedd ar y dreth, a meibion Israel a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw: ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. 19 Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.

11 A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o holl dŷ Jwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam. Ond gair yr Arglwydd a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd, Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr Arglwydd, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam.

A Rehoboam a drigodd yn Jerwsalem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda. Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa, A Bethsur, a Socho, ac Adulam, A Gath, a Maresa, a Siff, Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca, 10 A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid. 11 Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin. 12 Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a’u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin.

13 A’r offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o’u holl derfynau. 14 Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol, a’u meddiant, ac a ddaethant i Jwda, ac i Jerwsalem: canys Jeroboam a’i feibion a’u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i’r Arglwydd. 15 Ac efe a osododd iddo offeiriaid i’r uchelfeydd, ac i’r cythreuliaid, ac i’r lloi a wnaethai efe. 16 Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Israel, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio Arglwydd Dduw Israel, a ddaethant i Jerwsalem, i aberthu i Arglwydd Dduw eu tadau. 17 Felly hwy a gadarnhasant frenhiniaeth Jwda, ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd.

18 A Rehoboam a gymerth Mahalath, merch Jerimoth mab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail merch Eliab mab Jesse: 19 A hi a ymddûg iddo ef feibion, sef Jeus, a Samareia, a Saham. 20 Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddûg iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith. 21 A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na’i holl wragedd a’i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched. 22 A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin. 23 Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o’i feibion i holl wledydd Jwda a Benjamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd.

12 Ac wedi i Rehoboam sicrhau y frenhiniaeth, a’i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd, a holl Israel gydag ef. Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem, oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd, A mil a dau cant o gerbydau, a thrigeinmil o wŷr meirch; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o’r Aifft, sef y Lubiaid, y Succiaid, a’r Ethiopiaid. Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Jwda, ac a ddaeth hyd Jerwsalem.

Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Chwi a’m gwrthodasoch i, am hynny myfi a’ch gadewais chwi yn llaw Sisac. Yna tywysogion Israel a’r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr Arglwydd. A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr Arglwydd at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ymostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac. Eto byddant yn weision iddo ef, fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd. Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem, ac a gymerth drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac a’u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon. 10 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. 11 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, gwŷr y gard a ddeuent ac a’u cyrchent hwy, ac a’u dygent drachefn i ystafell gwŷr y gard. 12 A phan ymostyngodd efe, llid yr Arglwydd a ddychwelodd oddi wrtho ef, fel nas dinistriai ef yn hollol; ac yn Jwda hefyd yr oedd pob peth yn dda.

13 Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones. 14 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, canys ni pharatôdd efe ei galon i geisio yr Arglwydd. 15 Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Semaia y proffwyd, ac Ido y gweledydd, yn yr achau? A bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam yn wastadol. 16 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd; ac Abeia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.