Chronological
14 Yn yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda. 2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Joadan o Jerwsalem. 3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, eto nid fel Dafydd ei dad; ond efe a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef. 4 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
5 A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef, efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef. 6 Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr Arglwydd, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun. 7 Efe a drawodd o’r Edomiaid, yn nyffryn yr halen, ddeng mil, ac a enillodd y graig mewn rhyfel, ac a alwodd ei henw Joctheel, hyd y dydd hwn.
8 Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas, mab Jehu, brenin Israel, gan ddywedyd, Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd. 9 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig. A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn. 10 Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a’th falchïodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i’th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi? 11 Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Beth‐semes, yr hon sydd yn Jwda. 12 A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll. 13 A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Beth‐semes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, bedwar can cufydd. 14 Ac efe a gymerth yr holl aur a’r arian, a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.
15 A’r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a’i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 16 A Joas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
17 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd. 18 A’r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 19 Ond hwy a fradfwriadasant yn ei erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno. 20 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.
21 A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad. 22 Efe a adeiladodd Elath, ac a’i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau.
23 Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe. 24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 25 Efe a ddug adref derfyn Israel o’r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos, yn ôl gair Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd, yr hwn oedd o Gath‐Heffer. 26 Canys yr Arglwydd a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel. 27 Ac ni lefarasai yr Arglwydd y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a’u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas.
28 A’r rhan arall o hanes Jeroboam, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a’r modd y dug efe adref Damascus a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 29 A Jeroboam a hunodd gyda’i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
25 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Amaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jehoadan o Jerwsalem. 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ond nid â chalon berffaith.
3 A phan sicrhawyd ei deyrnas iddo ef, efe a laddodd ei weision a laddasent y brenin ei dad ef. 4 Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt, ond efe a wnaeth fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith yn llyfr Moses, lle y gorchmynasai yr Arglwydd, gan ddywedyd, Ni bydd marw y tadau dros y meibion, ac ni bydd marw y meibion dros y tadau, ond pob un a fydd marw am ei bechod ei hun.
5 Ac Amaseia a gynullodd Jwda, ac a’u gwnaeth hwy, yn ôl tŷ eu tadau, yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd, trwy holl Jwda a Benjamin: ac efe a’u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod, ac a’u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel, yn medru trin gwaywffon a tharian. 6 Ac efe a gyflogodd o Israel gan mil o wŷr cedyrn nerthol, er can talent o arian. 7 Ond gŵr Duw a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, O frenin, nac aed llu Israel gyda thi: canys nid yw yr Arglwydd gydag Israel, sef gyda holl feibion Effraim. 8 Ond os myned a fynni, gwna, ymgadarnha i ryfel: ond Duw a wna i ti syrthio o flaen dy elynion; canys y mae gan Dduw nerth i gynorthwyo, ac i gwympo. 9 Ac Amaseia a ddywedodd wrth ŵr Duw, Ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel? A dywedodd gŵr Duw, Y mae ar law yr Arglwydd roddi i ti lawer mwy na hynny. 10 Felly Amaseia a’u neilltuodd hwynt, sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim, i fyned i’w mangre eu hun. A llidiodd eu dicllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Jwda, a dychwelasant i’w mangre eu hun mewn llid dicllon.
11 Ac Amaseia a ymgadarnhaodd, ac a dywysodd allan ei bobl, ac a aeth i ddyffryn yr halen, ac a drawodd o feibion Seir ddeng mil. 12 Meibion Jwda hefyd a gaethgludasant ddeng mil yn fyw, ac a’u dygasant i ben y graig, ac a’u taflasant hwy o ben y graig, fel y drylliwyd hwynt oll.
13 A’r rhyfelwyr, y rhai a ddarfuasai i Amaseia eu troi yn ôl rhag myned gydag ef i ryfel, a ruthrasant ar ddinasoedd Jwda, o Samaria hyd Beth-horon, ac a drawsant ohonynt dair mil, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr.
14 Ac wedi dyfod Amaseia o ladd yr Edomiaid, efe a ddug dduwiau meibion Seir, ac a’u gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau, ac a addolodd ger eu bron hwynt, ac a arogldarthodd iddynt. 15 Am hynny y llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Amaseia; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef, yr hwn a ddywedodd wrtho ef, Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o’th law di? 16 A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin? paid, i ba beth y’th drewid? A’r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd, Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.
17 Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd, ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel, gan ddywedyd, Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd. 18 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig: a bwystfil y maes, yr hwn oedd yn Libanus, a dramwyodd, ac a sathrodd yr ysgellyn. 19 Dywedaist, Wele, trewaist yr Edomiaid, a’th galon a’th ddyrchafodd i ymffrostio; eistedd yn awr yn dy dŷ; paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi? 20 Ond ni wrandawai Amaseia; canys oddi wrth Dduw yr oedd hynny, fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn, am iddynt geisio duwiau Edom. 21 Felly Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon oedd yn Jwda. 22 A Jwda a drawyd o flaen Israel, a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll. 23 A Jaos brenin Israel a ddaliodd Amaseia mab Joas, fab Jehoahas brenin Jwda, yn Bethsemes, ac a’i dug ef i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, pedwar can cufydd. 24 Ac efe a gymerth yr holl aur, a’r arian, a’r holl lestri a gafwyd yn nhŷ Dduw gydag Obed-edom, a thrysorau tŷ y brenin, a’r gwystlon hefyd, ac a ddychwelodd i Samaria.
25 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw, wedi marwolaeth Joas mab Jehoahas brenin Israel, bymtheng mlynedd. 26 A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Amaseia, wele, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel?
27 Ac wedi’r amser yr ymadawodd Amaseia oddi ar ôl yr Arglwydd, hwy a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerwsalem, ac efe a ffodd i Lachis: ond hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno. 28 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Jwda.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.