Chronological
1 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem. 2 Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr Arglwydd Dduw yn dyst i’ch erbyn, yr Arglwydd o’i deml sanctaidd. 3 Canys wele yr Arglwydd yn dyfod o’i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear. 4 A’r mynyddoedd a doddant tano ef, a’r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered. 5 Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem? 6 Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i’w cherrig dreiglo i’r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini. 7 A’i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a’i holl wobrau a losgir yn tân, a’i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant. 8 Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan. 9 Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.
10 Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra. 11 Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan. 12 Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerwsalem. 13 Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel. 14 Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel. 15 Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswylferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel. 16 Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.
2 Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ar eu dwylo. 2 Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a’u dygant: gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ, dyn a’i etifeddiaeth. 3 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.
4 Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd. 5 Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr Arglwydd. 6 Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.
7 O yr hon a elwir Tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr Arglwydd? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau les i’r neb a rodio yn uniawn? 8 Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda’r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel. 9 Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth. 10 Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost. 11 Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i’r bobl hyn.
12 Gan gasglu y’th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn. 13 Daw y rhwygydd i fyny o’u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o’u blaen, a’r Arglwydd ar eu pennau hwynt.
3 Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn gwybod barn? 2 Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a’u cig oddi wrth eu hesgyrn; 3 Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a’u croen a flingant oddi amdanynt, a’u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i’r crochan, ac fel cig yn y badell. 4 Yna y llefant ar yr Arglwydd, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.
5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â’u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a’r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn. 6 Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a’r dydd a ddua arnynt. 7 Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a’r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd Duw ateb.
8 Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a’i bechod i Israel. 9 Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb. 10 Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd. 11 Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a’r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr Arglwydd i’n plith? ni ddaw drwg arnom. 12 Am hynny o’ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.
4 A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr Arglwydd fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato. 2 A chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd, ac i dŷ Dduw Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.
3 Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. 4 Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i’w dychrynu; canys genau Arglwydd y lluoedd a’i llefarodd. 5 Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd. 6 Yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a’r hon a ddrygais: 7 A gwnaf y gloff yn weddill, a’r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a’r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.
8 A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem. 9 Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor. 10 Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y’th waredir; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion.
11 Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion. 12 Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu. 13 Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a’th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i’r Arglwydd eu helw hwynt, a’u golud i Arglwydd yr holl ddaear.
5 Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i’n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern. 2 A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o’r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb. 3 Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i’r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.
4 Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr Arglwydd, yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear. 5 A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i’n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o’r dynion pennaf. 6 A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â’i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a’n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i’n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau. 7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.
8 A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd. 9 Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a’th holl elynion a dorrir ymaith. 10 A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr Arglwydd, i mi dorri ymaith dy feirch o’th ganol di, a dinistrio dy gerbydau: 11 Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd: 12 A thorraf ymaith o’th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid: 13 Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a’th ddelwau o’th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun: 14 Diwreiddiaf dy lwyni o’th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd. 15 Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.
6 Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr Arglwydd; Cyfod, ymddadlau â’r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais. 2 Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr Arglwydd; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel. 3 Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y’th flinais? tystiolaetha i’m herbyn. 4 Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam. 5 Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd.
6 Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid? 7 A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid? 8 Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw? 9 Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a’i hordeiniodd.
10 A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a’r mesur prin, peth sydd ffiaidd? 11 A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus? 12 Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau. 13 A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau. 14 Ti a fwytei, ac ni’th ddigonir; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a’r hyn a achubych, a roddaf i’r cleddyf. 15 Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.
16 Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y’th wnawn yn anghyfannedd, a’i thrigolion i’w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.
7 Gwae fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i’w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf. 2 Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.
3 I wneuthur drygioni â’r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a’r barnwr am wobr; a’r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef. 4 Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a’th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt.
5 Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes. 6 Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ. 7 Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth: fy Nuw a’m gwrendy.
8 Na lawenycha i’m herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr Arglwydd a lewyrcha i mi. 9 Dioddefaf ddig yr Arglwydd, canys pechais i’w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a’m dwg allan i’r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef. 10 A’m gelynes a gaiff weled, a chywilydd a’i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr Arglwydd dy Dduw? fy llygaid a’i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd. 11 Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf. 12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o’r dinasoedd cedyrn, ac o’r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. 13 Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd.
14 Portha dy bobl â’th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt. 15 Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau.
16 Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant. 17 Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o’u llochesau: arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni, ac o’th achos di yr ofnant.
18 Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. 19 Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. 20 Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.