Chronological
64 Ona rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di, 2 Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot! 3 Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen. 4 Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant â chlustiau, ac ni welodd llygad, O Dduw, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho. 5 Cyfarfyddi â’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig. 6 Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynt, a’n dug ni ymaith. 7 Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein hanwireddau. 8 Ond yn awr, O Arglwydd, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.
9 Na ddigia, Arglwydd, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll. 10 Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd. 11 Tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith. 12 A ymateli di, Arglwydd, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?
65 Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i. 2 Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun; 3 Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini; 4 Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri; 5 Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tân yn llosgi ar hyd y dydd. 6 Wele, ysgrifennwyd ger fy mron: ni thawaf; eithr talaf, ie, talaf i’w mynwes, 7 Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr Arglwydd, y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd, ac a’m cablasant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i’w mynwes.
8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll. 9 Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno. 10 Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwartheg, i’m pobl y rhai a’m ceisiasant.
11 Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr Arglwydd, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i’r llu acw, ac a lenwch ddiod‐offrwm i’r niferi acw. 12 Rhifaf chwithau i’r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth: oherwydd pan elwais chwi, nid atebasoch; pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf. 13 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, fy ngweision a fwytânt, a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch: 14 Wele, fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhag gofid calon, ac a udwch rhag cystudd ysbryd. 15 A’ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr Arglwydd Dduw a’th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall: 16 Fel y bo i’r hwn a ymfendigo ar y ddaear, ymfendigo yn Nuw y gwirionedd; ac i’r hwn a dyngo ar y ddaear, dyngu i Dduw y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o’m golwg.
17 Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a’r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt. 18 Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a’i phobl yn llawenydd. 19 Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd. 20 Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir. 21 A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth. 22 Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo. 23 Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr Arglwydd ydynt hwy, a’u hepil gyda hwynt. 24 A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf. 25 Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr Arglwydd.
66 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw lleithig fy nhraed: mae y tŷ a adeiledwch i mi? ac mae y fan y gorffwysaf? 2 Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr Arglwydd: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair. 3 Yr hwn a laddo ych, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a abertho oen, sydd fel yr hwn a dorfynyglo gi; yr hwn a offrymo offrwm, sydd fel ped offrymai waed moch; yr hwn a arogldartho thus, sydd fel pe bendigai eilun: ie, hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun, a’u henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd‐dra. 4 Minnau a ddewisaf eu dychmygion hwynt, ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant: am alw ohonof, ac nid oedd a atebai; lleferais, ac ni wrandawsant: eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg, a’r hyn nid oedd dda gennyf a ddewisasant.
5 Gwrandewch air yr Arglwydd, y rhai a grynwch wrth ei air ef; Eich brodyr y rhai a’ch casasant, ac a’ch gyrasant ar encil er mwyn fy enw i, a ddywedasant, Gogonedder yr Arglwydd: eto i’ch llawenydd chwi y gwelir ef, a hwynt a waradwyddir. 6 Llef soniarus o’r ddinas, llef o’r deml, llef yr Arglwydd yn talu y pwyth i’w elynion. 7 Cyn ei chlafychu, yr esgorodd; cyn dyfod gwewyr arni, y rhyddhawyd hi ar fab. 8 Pwy a glybu y fath beth â hyn? pwy a welodd y fath bethau â hyn? A wneir i’r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Seion, yr esgorodd hefyd ar ei meibion. 9 A ddygaf fi i’r enedigaeth, ac oni pharaf esgor? medd yr Arglwydd: a baraf fi esgor, ac a luddiaf? medd dy Dduw. 10 Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch hyfryd gyda hi, y rhai oll a’i cerwch hi: llawenhewch gyda hi yn llawen, y rhai oll a alerwch o’i phlegid hi: 11 Fel y sugnoch, ac y’ch diwaller â bronnau ei diddanwch hi; fel y godroch, ac y byddoch hyfryd gan helaethrwydd ei gogoniant hi. 12 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a estynnaf iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol: yna y sugnwch, ar ei hystlys hi y’ch dygir, ac ar ei gliniau y’ch diddenir. 13 Fel un yr hwn y diddana ei fam ef, felly y diddanaf fi chwi; ac yn Jerwsalem y’ch diddenir. 14 A phan weloch hyn, y llawenycha eich calon; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn: ac fe adwaenir llaw yr Arglwydd tuag at ei weision, a’i lidiowgrwydd wrth ei elynion. 15 Canys, wele, yr Arglwydd a ddaw â thân, ac â’i gerbydau fel trowynt, i dalu ei ddicter â llidiowgrwydd, a’i gerydd â fflamau tân. 16 Canys yr Arglwydd a ymddadlau â thân ac â’i gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lladdedigion yr Arglwydd fyddant aml. 17 Y rhai a ymsancteiddiant, ac a ymlanhânt yn y gerddi, yn ôl ei gilydd, yn y canol, gan fwyta cig moch, a ffieidd‐dra, a llygod, a gyd‐ddiweddir, medd yr Arglwydd. 18 Canys mi a adwaen eu gweithredoedd hwynt a’u meddyliau: y mae yr amser yn dyfod, i gasglu yr holl genhedloedd a’r ieithoedd; a hwy a ddeuant, ac a welant fy ngogoniant. 19 A gosodaf yn eu mysg arwydd, ac anfonaf y rhai dihangol ohonynt at y cenhedloedd, i Tarsis, Affrica, a Lydia, y rhai a dynnant mewn bwa, i Italia, a Groeg, i’r ynysoedd pell, y rhai ni chlywsant sôn amdanaf, ac ni welsant fy ngogoniant; a mynegant fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd. 20 A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd, yn offrwm i’r Arglwydd, ar feirch, ac ar gerbydau, ac ar elorau meirch, ac ar fulod, ac ar anifeiliaid buain, i’m mynydd sanctaidd Jerwsalem, medd yr Arglwydd, megis y dwg meibion Israel offrwm mewn llestr glân i dŷ yr Arglwydd. 21 Ac ohonynt hwy y cymeraf rai yn offeiriaid ac yn Lefiaid, medd yr Arglwydd. 22 Canys megis y saif ger fy mron y nefoedd newydd a’r ddaear newydd, y rhai a wnaf fi, medd yr Arglwydd, felly y saif eich had chwi, a’ch enw chwi. 23 Bydd hefyd o newyddloer i newyddloer, ac o Saboth i Saboth, i bob cnawd ddyfod i addoli ger fy mron i, medd yr Arglwydd. 24 A hwy a ânt allan, ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i’m herbyn: canys eu pryf ni bydd marw, a’u tân ni ddiffydd; a byddant yn ffieidd‐dra gan bob cnawd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.