Chronological
32 Wedi y pethau hyn, a’u sicrhau, y daeth Senacherib brenin Asyria, ac a ddaeth i mewn i Jwda; ac a wersyllodd yn erbyn y dinasoedd caerog, ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun. 2 A phan welodd Heseceia ddyfod Senacherib, a bod ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerwsalem, 3 Efe a ymgynghorodd â’i dywysogion, ac â’i gedyrn, am argae dyfroedd y ffynhonnau, y rhai oedd allan o’r ddinas. A hwy a’i cynorthwyasant ef. 4 Felly pobl lawer a ymgasglasant, ac a argaeasant yr holl ffynhonnau, a’r afon sydd yn rhedeg trwy ganol y wlad, gan ddywedyd, Paham y daw brenhinoedd Asyria, ac y cânt ddyfroedd lawer? 5 Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a’i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau. 6 Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a’u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt, gan ddywedyd, 7 Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria, na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef: canys y mae gyda ni fwy na chydag ef. 8 Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr Arglwydd ein Duw sydd gyda ni, i’n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A’r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.
9 Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem, (ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis, a’i holl allu gydag ef,) at Heseceia brenin Jwda, ac at holl Jwda, y rhai oedd yn Jerwsalem, gan ddywedyd, 10 Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Asyria, Ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu, chwi y rhai sydd yn aros yng ngwarchae o fewn Jerwsalem? 11 Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi, i’ch rhoddi chwi i farw trwy newyn, a thrwy syched, gan ddywedyd, Yr Arglwydd ein Duw a’n gwared ni o law brenin Asyria. 12 Onid yr Heseceia hwnnw a dynnodd ymaith ei uchelfeydd ef, a’i allorau, ac a orchmynnodd i Jwda a Jerwsalem, gan ddywedyd, O flaen un allor yr addolwch, ac ar honno yr aroglderthwch? 13 Oni wyddoch chwi beth a wneuthum, mi a’m tadau, i holl bobl y tiroedd? ai gan allu y gallai duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlad o’m llaw i? 14 Pwy oedd ymysg holl dduwiau y cenhedloedd hyn, y rhai a ddarfu i’m tadau eu difetha, a allai waredu ei bobl o’m llaw i, fel y gallai eich Duw chwi eich gwaredu chwi o’m llaw i? 15 Yn awr gan hynny na thwylled Heseceia chwi, ac na huded mohonoch fel hyn, ac na choeliwch iddo ef: canys ni allodd duw un genedl na theyrnas achub ei bobl o’m llaw i, nac o law fy nhadau: pa faint llai y gwared eich Duw chwychwi o’m llaw i? 16 A’i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr Arglwydd Dduw, ac yn erbyn Heseceia ei was ef. 17 Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu Arglwydd Dduw Israel, ac i lefaru yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o’m llaw i, felly nid achub Duw Heseceia ei bobl o’m llaw i. 18 Yna y gwaeddasant hwy â llef uchel, yn iaith yr Iddewon, ar bobl Jerwsalem y rhai oedd ar y mur, i’w hofni hwynt, ac i’w brawychu; fel yr enillent hwy y ddinas. 19 A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad, sef gwaith dwylo dyn. 20 Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin, ac Eseia y proffwyd mab Amos, ac a waeddasant i’r nefoedd.
21 A’r Arglwydd a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i’w wlad ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw, y rhai a ddaethant allan o’i ymysgaroedd ei hun a’i lladdasant ef yno â’r cleddyf. 22 Felly y gwaredodd yr Arglwydd Heseceia a thrigolion Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria, ac o law pawb eraill, ac a’u cadwodd hwynt oddi amgylch. 23 A llawer a ddygasant roddion i’r Arglwydd i Jerwsalem, a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda; fel y dyrchafwyd ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd.
24 Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw, ac a weddïodd ar yr Arglwydd: yntau a lefarodd wrtho, ac a roddes argoel iddo. 25 Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo; canys ei galon ef a ddyrchafodd: a digofaint a ddaeth arno ef, ac ar Jwda a Jerwsalem. 26 Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrigolion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr Arglwydd arnynt yn nyddiau Heseceia.
27 Ac yr oedd gan Heseceia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn: ac efe a wnaeth iddo drysorau o arian, ac o aur, ac o feini gwerthfawr, o beraroglau hefyd, ac o darianau, ac o bob llestri hyfryd; 28 A selerau i gnwd yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a phresebau i bob math ar anifail, a chorlannau i’r diadellau. 29 Ac efe a wnaeth iddo ddinasoedd, a chyfoeth o ddefaid a gwartheg lawer: canys Duw a roddasai iddo ef gyfoeth mawr iawn. 30 A’r Heseceia yma a argaeodd yr aber uchaf i ddyfroedd Gihon, ac a’u dug hwynt yn union oddi tanodd, tua thu y gorllewin i ddinas Dafydd. A ffynnodd Heseceia yn ei holl waith.
31 Eto yn neges cenhadau tywysogion Babilon, y rhai a anfonwyd ato ef i ymofyn am y rhyfeddod a wnaethid yn y wlad, Duw a’i gadawodd ef, i’w brofi ef, i wybod y cwbl ag oedd yn ei galon.
32 A’r rhan arall o hanes Heseceia, a’i garedigrwydd ef, wele hwy yn ysgrifenedig yng ngweledigaeth Eseia y proffwyd mab Amos, ac yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel. 33 A Heseceia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd. A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth. A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
33 Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt. 4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd, am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd, Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd. 5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd. 6 Ac efe a yrrodd ei feibion trwy’r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef. 7 Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ Dduw, am yr hwn y dywedasai Duw wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd. 8 Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i’ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, trwy law Moses. 9 Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel. 10 Er llefaru o’r Arglwydd wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.
11 Am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon. 12 A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau, 13 Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a’i dug ef drachefn i Jerwsalem i’w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr Arglwydd oedd Dduw. 14 Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du’r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a’i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda. 15 Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a’r ddelw, allan o dŷ yr Arglwydd, a’r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr Arglwydd, ac yn Jerwsalem, ac a’u taflodd allan o’r ddinas. 16 Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel. 17 Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd: eto i’r Arglwydd eu Duw yn unig.
18 A’r rhan arall o hanes Manasse, a’i weddi ef at ei Dduw, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel, wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel. 19 Ei weddi ef hefyd, a’r modd y cymododd Duw ag ef, a’i holl bechod ef, a’i gamwedd, a’r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.
20 Felly Manasse a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
21 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 22 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel y gwnaethai Manasse ei dad ef: canys Amon a aberthodd i’r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei dad ef, ac a’u gwasanaethodd hwynt. 23 Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr Arglwydd, fel yr ymostyngasai Manasse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy. 24 A’i weision ef a fradfwriadasant i’w erbyn ef, ac a’i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun.
25 Ond pobl y wlad a laddasant yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon; a phobl y wlad a urddasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.