Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 38-40

38 Yna Seffatia mab Mattan, a Gedaleia mab Pasur, a Jucal mab Selemeia, a Phasur mab Malcheia, a glywsant y geiriau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a’i hennill hi. Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed. A’r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi. Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.

A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,) Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd, O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas. 10 Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw. 11 Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau. 12 Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. A Jeremeia a wnaeth felly. 13 Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a’i codasant ef o’r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.

14 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr Arglwydd; a’r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi. 15 A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf? 16 Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes. 17 Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, Duw Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a’th deulu. 18 Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt. 19 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i’r rhai hynny fy ngwatwar. 20 A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw. 21 Ond os gwrthodi fyned allan, dyma y gair a ddangosodd yr Arglwydd i mi: 22 Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl. 23 Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon y’th ddelir; a’r ddinas hon a losgi â thân.

24 Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni’th roddir i farwolaeth. 25 Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau: 26 Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno. 27 Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a’i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef, canys ni chafwyd clywed y peth. 28 A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem.

39 Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o’r mis, y torrwyd y ddinas. A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sef Nergal‐sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal‐sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.

A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a’r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i’r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua’r anialwch. A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a’i daliasant ef, ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribla yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe farn arno. Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribla o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda. Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef â chadwynau i’w ddwyn i Babilon.

A’r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem. Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid. 10 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda, ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.

11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd, 12 Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo. 13 Felly Nebusaradan pennaeth y milwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal‐sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon; 14 Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i’w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd, 16 Dos, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a baraf i’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw. 17 Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt. 18 Canys gan achub mi a’th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr Arglwydd.

40 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama, wedi iddo ei gymryd ef, ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda, y rhai a gaethgludasid i Babilon. A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia, ac a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd dy Dduw a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn. A’r Arglwydd a’i dug i ben, ac a wnaeth megis y llefarodd: am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wrandawsoch ar ei lais ef, am hynny y daeth y peth hyn i chwi. Ac yn awr wele, mi a’th ryddheais di heddiw o’r cadwynau oedd am dy ddwylo: os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon, tyred, a myfi a fyddaf da wrthyt: ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon, paid; wele yr holl dir o’th flaen di: i’r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned, yno dos. Ac yn awr, ac efe eto heb ddychwelyd, efe a ddywedodd, Dychwel at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl: neu dos lle y gwelych di yn dda fyned. Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd, ac a’i gollyngodd ef ymaith. Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa, ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad.

A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt‐hwy a’u gwŷr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o dlodion y wlad, o’r rhai ni chaethgludasid i Babilon; Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan a Jonathan meibion Carea, a Seraia mab Tanhumeth, a meibion Effai y Netoffathiad, a Jesaneia mab Maachathiad, hwynt‐hwy a’u gwŷr. A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, gan ddywedyd, Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlad, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi. 10 Amdanaf finnau, wele, mi a drigaf ym Mispa, i wasanaethu y Caldeaid, y rhai a ddeuant atom ni: chwithau, cesglwch win, a ffrwythydd haf, ac olew, a dodwch hwynt yn eich llestri, a thrigwch yn eich dinasoedd, y rhai yr ydych yn eu meddiannu. 11 A phan glybu yr holl Iddewon y rhai oedd ym Moab, ac ymysg meibion Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wledydd, i frenin Babilon adael gweddill o Jwda, a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy; 12 Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o’r holl leoedd lle y gyrasid hwynt, ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa, ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn.

13 Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa, 14 Ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti yn hysbys i Baalis, brenin meibion Ammon, anfon Ismael mab Nethaneia i’th ladd di? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy. 15 Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Nethaneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda? 16 Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea, Na wna y peth hyn: canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.

Salmau 74

Maschil Asaff.

74 Paham, Dduw, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo. Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr. Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion. Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed. Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion. Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw. Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir. Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd. 10 Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd? 11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes. 12 Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir. 13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd. 14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch. 15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion. 16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul. 17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf. 18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw. 19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth. 20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster. 21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw. 22 Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd. 23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.

Salmau 79

Salm Asaff.

79 Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant Jerwsalem yn garneddau. Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear. Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai. Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch. Pa hyd, Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân? Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw. Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd. Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd. Cynorthwya ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw. 10 Paham y dywed y cenhedloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision yr hwn a dywalltwyd. 11 Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron: yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth. 12 A thâl i’n cymdogion ar y seithfed i’w mynwes, eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di, O Arglwydd. 13 A ninnau dy bobl a defaid dy borfa, a’th foliannwn di yn dragywydd: datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.