Chronological
18 Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 2 Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau. 3 Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau. 4 A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwynwyd yn llaw y crochenydd; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef. 5 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 6 Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr Arglwydd. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel. 7 Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth; 8 Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. 9 A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu, ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth; 10 Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni â’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi.
11 Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i’ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o’i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd yn dda. 12 Hwythau a ddywedasant, Nid oes obaith; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun. 13 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gofynnwch, atolwg, ymysg y cenhedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn. 14 A wrthyd dyn eira Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y maes? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall? 15 Oherwydd i’m pobl fy anghofio i, hwy a arogldarthasant i wagedd, ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o’r hen lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr; 16 I wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob un a elo heibio iddo a synna, ac a ysgwyd ei ben. 17 Megis â gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd.
18 Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef â’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef. 19 Ystyria di wrthyf, O Arglwydd, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi. 20 A delir drwg dros dda? canys cloddiasant ffos i’m henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt, ac i droi dy ddig oddi wrthynt. 21 Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn, a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf; a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf yn y rhyfel. 22 Clywer eu gwaedd o’u tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth; canys cloddiasant ffos i’m dal, a chuddiasant faglau i’m traed. 23 Tithau, O Arglwydd, a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i: na faddau eu hanwiredd, ac na ddilea eu pechodau o’th ŵydd; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint.
19 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dos, a chais ystên bridd y crochenydd, a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid, 2 A dos allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain, a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt; 3 A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, ei glustiau a ferwinant. 4 Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na’u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid; 5 Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal; yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon: 6 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na elwir y lle hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa. 7 A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. 8 A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd, ac yn ffiaidd; pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana, oherwydd ei holl ddialeddau hi. 9 A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytânt hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, â’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt. 10 Yna y torri yr ystên yng ngŵydd y gwŷr a êl gyda thi, 11 Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a’r ddinas hon, fel y dryllia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach; ac yn Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu. 12 Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn, medd yr Arglwydd, ac i’r rhai sydd yn trigo ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet. 13 A thai Jerwsalem, a thai brenhinoedd Jwda, a fyddant halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr. 14 Yna y daeth Jeremeia o Toffet, lle yr anfonasai yr Arglwydd ef i broffwydo, ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, 15 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.
20 Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn; 2 Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a’i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd. 3 A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar. Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef, Ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur, ond Magor-missabib. 4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgluda hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf. 5 Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a’i holl lafur, a phob dim a’r y sydd werthfawr ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion, y rhai a’u hanrheithiant hwynt, ac a’u cymerant, ac a’u dygant i Babilon. 6 A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.
7 O Arglwydd, ti a’m hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar. 8 Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr Arglwydd yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd. 9 Yna y dywedais, Ni soniaf amdano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.
10 Canys clywais ogan llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a’i mynegwn: pob dyn heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddywedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a’i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno. 11 Ond yr Arglwydd oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth. 12 Ond tydi, Arglwydd y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a’r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn. 13 Cenwch i’r Arglwydd, moliennwch yr Arglwydd: canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus.
14 Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno: na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam. 15 Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr. 16 A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr Arglwydd, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd: 17 Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a’i chroth yn feichiog arnaf byth. 18 Paham y deuthum i allan o’r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?
21 Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan anfonodd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd, 2 Ymofyn, atolwg, â’r Arglwydd drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr Arglwydd â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni.
3 Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia; 4 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer, a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon. 5 A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig, ac â braich gref, mewn soriant, a llid, a digofaint mawr. 6 Trawaf hefyd drigolion y ddinas hon, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr. 7 Ac wedi hynny, medd yr Arglwydd, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.
8 Ac wrth y bobl hyn y dywedi, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau. 9 Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo. 10 Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er da, medd yr Arglwydd: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a’i llysg hi â thân.
11 Ac am dŷ brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd. 12 O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i’m llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd. 13 Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr Arglwydd; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i’n herbyn? neu, Pwy a ddaw i’n hanheddau? 14 Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi.
22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Dos di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn; 2 A dywed, Gwrando air yr Arglwydd, frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a’th weision, a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn: 3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr: na wnewch gam, ac na threisiwch y dieithr, yr amddifad, na’r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn. 4 Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a’i weision, a’i bobl. 5 Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr Arglwydd, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd. 6 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol. 7 Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithwyr, pob un â’i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a’u bwriant i’r tân. 8 A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r ddinas fawr hon? 9 Yna yr atebant, Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr Arglwydd eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt.
10 Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wêl wlad ei enedigaeth. 11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad, yr hwn a aeth allan o’r lle hwn; Ni ddychwel efe yno mwyach. 12 Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.
13 Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder, a’i ystafellau trwy gam; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith: 14 Yr hwn a ddywed, Mi a adeiladaf i mi dŷ eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion. 15 A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo? 16 Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr Arglwydd, 17 Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham. 18 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef! 19 Â chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a’i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem.
20 Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o’r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant. 21 Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o’th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais. 22 A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a’th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y’th gywilyddir, ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni. 23 Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor! 24 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno: 25 A mi a’th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid. 26 Bwriaf dithau hefyd, a’th fam a’th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni’ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw. 27 Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno. 28 Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant? 29 O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd. 30 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi‐blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had ef un a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.