Chronological
1 Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged! 2 Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o’i holl gariadau yn ei chysuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion iddi. 3 Jwda a fudodd ymaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd, heb gael gorffwystra: ei holl erlidwyr a’i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng. 4 Y mae ffyrdd Seion yn galaru, o eisiau rhai yn dyfod i’r ŵyl arbennig: ei holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morynion yn ofidus, a hithau yn flin arni. 5 Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu: canys yr Arglwydd a’i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn. 6 A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr. 7 Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a’i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a’i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau. 8 Jerwsalem a bechodd bechod; am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a’i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl. 9 Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, Arglwydd, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn. 10 Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i’w chysegr, i’r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i’th gynulleidfa. 11 Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid: edrych, Arglwydd, a gwêl; canys dirmygus ydwyf fi.
12 Onid gwaeth gennych chwi, y fforddolion oll? gwelwch ac edrychwch, a oes y fath ofid â’m gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi, â’r hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi yn nydd angerdd ei ddicter. 13 O’r uchelder yr anfonodd efe dân i’m hesgyrn i, yr hwn a aeth yn drech na hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a’m dychwelodd yn fy ôl; efe a’m gwnaeth yn anrheithiedig, ac yn ofidus ar hyd y dydd. 14 Rhwymwyd iau fy nghamweddau â’i law ef: hwy a blethwyd, ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf: efe a wnaeth i’m nerth syrthio; yr Arglwydd a’m rhoddodd mewn dwylo, oddi tan y rhai ni allaf gyfodi. 15 Yr Arglwydd a fathrodd fy holl rai grymus o’m mewn; efe a gyhoeddodd i’m herbyn gymanfa, i ddifetha fy ngwŷr ieuainc: fel gwinwryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Jwda. 16 Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i’r gelyn orchfygu. 17 Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr Arglwydd a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.
18 Cyfiawn yw yr Arglwydd; oblegid myfi a fûm anufudd i’w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed. 19 Gelwais am fy nghariadau, a hwy a’m twyllasant; fy offeiriaid a’m hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid. 20 Gwêl, O Arglwydd; canys y mae yn gyfyng arnaf: fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drodd ynof; oherwydd fy mod yn rhy anufudd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sydd gartref. 21 Clywsant fy mod i yn ucheneidio: nid oes a’m diddano: fy holl elynion, pan glywsant fy nrygfyd, a lawenychasant am i ti wneuthur hynny: ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist, a hwy a fyddant fel finnau. 22 Deued eu holl ddrygioni hwynt o’th flaen di; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnau, am fy holl gamweddau: oblegid y mae fy ucheneidiau yn aml, a’m calon yn ofidus.
2 Pa fodd y dug yr Arglwydd gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o’r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint! 2 Yr Arglwydd a lyncodd, heb arbed, holl anheddau Jacob; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda; efe a’u tynnodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas a’i thywysogion. 3 Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel: efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch. 4 Efe a anelodd ei fwa fel gelyn; safodd â’i ddeheulaw fel gwrthwynebwr, ac a laddodd bob dim hyfryd i’r golwg ym mhabell merch Seion: fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint. 5 Yr Arglwydd sydd megis gelyn: efe a lyncodd Israel, efe a lyncodd ei holl balasau hi: efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda. 6 Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa: yr Arglwydd a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel ŵyl a’r Saboth, ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a’r offeiriad. 7 Yr Arglwydd a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gysegr; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant floedd yn nhŷ yr Arglwydd, megis ar ddydd uchel ŵyl. 8 Yr Arglwydd a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion; efe a estynnodd linyn, ac nid ataliodd ei law rhag difetha: am hynny y gwnaeth efe i’r rhagfur ac i’r mur alaru; cydlesgasant. 9 Ei phyrth a soddasant i’r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a’i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a’i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd. 10 Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â sôn; gosodasant lwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr. 11 Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear; oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a’r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas. 12 Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae ŷd a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau. 13 Pa beth a gymeraf yn dyst i ti? beth a gyffelybaf i ti, O ferch Jerwsalem? beth a gystadlaf â thi, fel y’th ddiddanwyf, O forwyn, merch Seion? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr; pwy a’th iachâ di? 14 Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd; ac ni ddatguddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, ac achosion deol. 15 Y rhai oll a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti; chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear? 16 Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a’i cawsom, ni a’i gwelsom. 17 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di. 18 Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Arglwydd, O fur merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orffwys, ac na pheidied cannwyll dy lygad. 19 Cyfod, cyhoedda liw nos; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr Arglwydd: dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.
20 Edrych, Arglwydd, a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn: a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun, plant o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a’r proffwyd yng nghysegr yr Arglwydd? 21 Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf: ti a’u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed. 22 Gelwaist, megis ar ddydd uchel ŵyl, fy nychryn o amgylch, fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i.
3 Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. 2 I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. 3 Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. 4 Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. 5 Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. 6 Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. 7 Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. 8 Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. 9 Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau. 10 Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau. 11 Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi. 12 Efe a anelodd ei fwa, ac a’m gosododd fel nod i saeth. 13 Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau. 14 Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl, a’u cân ar hyd y dydd. 15 Efe a’m llanwodd â chwerwder; efe a’m meddwodd i â’r wermod. 16 Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llwch. 17 A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni. 18 A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr Arglwydd. 19 Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.
22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. 25 Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. 26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd. 27 Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. 28 Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno. 29 Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith. 30 Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd. 31 Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd: 32 Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau. 33 Canys nid o’i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion. 34 I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed, 35 I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf, 36 Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.