Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 32-34

32 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor. Canys y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nhŷ brenin Jwda. Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi; Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid, ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan ag ef enau yng ngenau, a’i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau; Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef, medd yr Arglwydd: er i chwi ymladd â’r Caldeaid, ni lwyddwch.

A Jeremeia a lefarodd, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Prŷn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i’w brynu ef. Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrthyf, Prŷn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Benjamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng; prŷn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr Arglwydd oedd hwn. A mi a brynais y maes oedd yn Anathoth gan Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian. 10 A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a’i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriannau. 11 Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a defod, a’r hwn oedd yn agored. 12 A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.

13 A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd, 14 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o’r pryniad yr hwn sydd seliedig, a’r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer. 15 Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.

16 Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, 17 O Arglwydd Dduw, wele, ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear, â’th fawr allu ac â’th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti. 18 Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, Arglwydd y lluoedd yw ei enw; 19 Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd; 20 Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ymysg dynion eraill; ac a wnaethost i ti enw, megis heddiw; 21 Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft, ag arwyddion, ac â rhyfeddodau, ac â llaw gref, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr; 22 Ac a roddaist iddynt y wlad yma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 23 A hwy a ddaethant i mewn, ac a’i meddianasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith: ni wnaethant ddim o’r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i’r holl niwed hyn ddigwydd iddynt. 24 Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a’r newyn, a’r haint: a’r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a’i gweli. 25 A thi a ddywedaist wrthyf, O Arglwydd Dduw, Prŷn i ti y maes ag arian, a chymer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid.

26 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 27 Wele, myfi yw yr Arglwydd, Duw pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi? 28 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi. 29 A’r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a’i llosgant hi, a’r tai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant ddiod‐offrwm i dduwiau dieithr, i’m digio i. 30 Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i â gweithredoedd eu dwylo, medd yr Arglwydd. 31 Canys i’m digofaint, ac i’m llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb: 32 Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i’m digio i, hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a’u proffwydi, a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem. 33 Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau: 34 Eithr gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef. 35 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn, i beri i Jwda bechu.

36 Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint; 37 Wele, myfi a’u cynullaf hwynt o’r holl diroedd, y rhai yn fy nig a’m llid a’m soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel. 38 A hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau. 39 A mi a roddaf iddynt un galon ac un ffordd, i’m hofni byth, er lles iddynt ac i’w meibion ar eu hôl. 40 A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, na throaf oddi wrthynt, heb wneuthur lles iddynt; a mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na chiliont oddi wrthyf. 41 Ie, mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur lles iddynt, a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr, â’m holl galon, ac â’m holl enaid. 42 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn, felly y dygaf fi arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt. 43 A meysydd a feddiennir yn y wlad yma, am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd, Anghyfannedd yw hi, heb ddyn nac anifail; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi. 44 Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a’u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr Arglwydd.

33 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a’i gwnaeth, yr Arglwydd yr hwn a’i lluniodd i’w sicrhau, yr Arglwydd yw ei enw: Galw arnaf, a mi a’th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf; Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid, ond i’w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt. Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd. A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad. A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn.

A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod ac yn ogoniant, o flaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,) 11 Llef gorfoledd a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch Arglwydd y lluoedd; oherwydd daionus yw yr Arglwydd, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr Arglwydd: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr Arglwydd. 12 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd. 13 Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr â defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr Arglwydd. 14 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.

15 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir. 16 Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr Arglwydd ein cyfiawnder.

17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel. 18 Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd‐offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.

19 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 20 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser; 21 Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion. 22 Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi. 23 Hefyd, gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 24 Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt. 25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear: 26 Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.

34 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a’r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Dos, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a’i llysg hi â thân: Ac ni ddihengi dithau o’i law ef, canys diau y’th ddelir, ac y’th roddir i’w law ef; a’th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon, a’i enau ef a ymddiddan â’th enau di, a thithau a ei i Babilon. Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr Arglwydd; Fel hyn y dywed yr Arglwydd amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf: Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i’th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o’th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr Arglwydd. Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem, Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.

Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, wedi i’r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â’r holl bobl oedd yn Jerwsalem, am gyhoeddi iddynt ryddid; I ollwng o bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai fyddent Hebread neu Hebrees, yn rhyddion; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew. 10 A phan glybu yr holl benaethiaid, a’r holl bobl y rhai a aethent i’r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a’u gollyngasant ymaith. 11 Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a’u morynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a’u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion.

12 Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 13 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Mi a wneuthum gyfamod â’ch tadau chwi, y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed, gan ddywedyd, 14 Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread, yr hwn a werthwyd i ti, ac a’th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau. 15 A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw, ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog; a chwi a wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno: 16 Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi. 17 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd, a phob un i’w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn, medd yr Arglwydd, ryddid i’r cleddyf, i’r haint, ac i’r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear. 18 A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau; 19 Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo; 20 Ie, mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. 21 A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, y rhai a aethant i fyny oddi wrthych. 22 Wele, mi a orchmynnaf, medd yr Arglwydd, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a’i goresgynnant hi, ac a’i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.