Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Nehemeia 8-10

A’r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i’r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd, am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchmynasai yr Arglwydd i Israel. Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis. Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o’r bore hyd hanner dydd, gerbron y gwŷr, a’r gwragedd, a’r rhai oedd yn medru deall: a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith. Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed, yr hwn a wnaethid i’r peth hyn; a chydag ef y safodd Matitheia, a Sema, ac Anaia, ac Ureia, a Hilceia, a Maaseia, ar ei law ddeau ef; a Phedaia, a Misael, a Malcheia, a Hasum, a Hasbadana, Sechareia, a Mesulam, ar ei law aswy ef. Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl; (canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl;) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant. Ac Esra a fendithiodd yr Arglwydd, y Duw mawr. A’r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr Arglwydd â’u hwynebau tua’r ddaear. Jesua hefyd, a Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, a’r Lefiaid, oedd yn dysgu y gyfraith i’r bobl, a’r bobl yn sefyll yn eu lle. A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith Dduw: gan osod allan y synnwyr, fel y deallent wrth ddarllen.

A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddiw yn sanctaidd i’r Arglwydd eich Duw; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith. 10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi. 11 A’r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl, gan ddywedyd, Tewch: canys y dydd heddiw sydd sanctaidd, ac na thristewch. 12 A’r holl bobl a aethant i fwyta ac i yfed, ac i anfon ymaith rannau, ac i wneuthur llawenydd mawr; oherwydd iddynt ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt.

13 A’r ail ddydd, tadau pennaf yr holl bobl, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd, i’w dysgu yng ngeiriau y gyfraith. 14 A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith, yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, y dylai meibion Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis; 15 Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Jerwsalem, gan ddywedyd, Ewch i’r mynydd, a dygwch ganghennau olewydd, a changau pinwydd, a changau y myrtwydd, a changau y palmwydd, a changhennau o’r prennau caeadfrig, i wneuthur bythod, fel y mae yn ysgrifenedig.

16 Felly y bobl a aethant allan, ac a’u dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac yng nghynteddoedd tŷ Dduw, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Effraim. 17 A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o’r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod: canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly. Ac yr oedd llawenydd mawr iawn. 18 Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith Dduw beunydd, o’r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf. A hwy a gynaliasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.

Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis hwn, meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd, ac mewn sachliain, a phridd arnaddynt. A had Israel a ymneilltuasant oddi wrth bob dieithriaid, ac a safasant, ac a gyffesasant eu pechodau, ac anwireddau eu tadau. A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i’r Arglwydd eu Duw.

Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid, Jesua, a Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Chenani; a gwaeddasant â llef uchel ar yr Arglwydd eu Duw: A’r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant. Ti yn unig wyt Arglwydd: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a’u holl luoedd hwynt, y ddaear a’r hyn oll sydd arni, y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti. Ti yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn a ddetholaist Abram, ac a’i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid, ac a roddaist iddo enw Abraham: A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di, ac a wnaethost gyfamod ag ef, ar roddi yn ddiau i’w had ef wlad y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, a’r Girgasiaid; ac a gwblheaist dy eiriau: oherwydd cyfiawn wyt. Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch: 10 A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys gwybuost i’r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y gwelir y dydd hwn. 11 Y môr hefyd a holltaist o’u blaen hwynt, fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir; a’u herlidwyr a fwriaist i’r gwaelod, fel maen i ddyfroedd cryfion: 12 Ac a’u harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmwl, a lliw nos mewn colofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oeddynt yn myned ar hyd‐ddi. 13 Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o’r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus: 14 A’th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt; gorchmynion hefyd, a deddfau, a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt, trwy law Moses dy was: 15 Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt. 16 Ond hwynt‐hwy a’n tadau ni a falchiasant, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di; 17 Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt Dduw parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt. 18 Hefyd, pan wnaethent iddynt lo toddedig, a dywedyd, Dyma dy dduw di yr hwn a’th ddug di i fyny o’r Aifft, a chablasent yn ddirfawr; 19 Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na’r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi. 20 Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist i’w dysgu hwynt, ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau; dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched. 21 Felly deugain mlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch, heb fod arnynt eisiau dim: eu gwisgoedd ni heneiddiasant, a’u traed ni chwyddasant. 22 A thi a roddaist iddynt freniniaethau a phobloedd, a rhennaist hwynt i gonglau. Felly hwy a feddianasant wlad Sihon, a gwlad brenin Hesbon, a gwlad Og brenin Basan. 23 Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd, ac a’u dygaist hwynt i’r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi i’w meddiannu. 24 Felly y meibion a aethant i mewn, ac a feddianasant y wlad, a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad, y Canaaneaid, o’u blaen hwynt, ac a’u rhoddaist yn eu llaw hwynt, eu brenhinoedd hefyd, a phobloedd y wlad, fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys. 25 A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di. 26 Eto hwy a anufuddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl i’w cefn, a’th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd atat; ac a gablasant yn ddirfawr. 27 Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr. 28 Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o’r nefoedd a wrandewaist, ac a’u gwaredaist hwynt, yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd. 29 A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant. 30 Er hynny ti a’u hoedaist hwynt flynyddoedd lawer, ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi; ond ni wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd. 31 Eto, er mwyn dy fawr drugareddau, ni lwyr ddifethaist hwynt, ac ni wrthodaist hwynt; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt. 32 Ac yn awr, O ein Duw ni, y Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd; na fydded bychan o’th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n hoffeiriaid, ac i’n proffwydi, ac i’n tadau, ac i’th holl bobl, er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn. 33 Tithau ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni: canys gwirionedd a wnaethost ti, a ninnau a wnaethom yn annuwiol. 34 Ein brenhinoedd hefyd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid, a’n tadau, ni chadwasant dy gyfraith, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, na’th dystiolaethau, y rhai a dystiolaethaist wrthynt. 35 A hwy ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o’u blaen hwynt; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd. 36 Wele ni heddiw yn weision; ac am y wlad a roddaist i’n tadau ni, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni, wele ni yn weision ynddi. 37 A mawr yw ei thoreth hi i’r brenhinoedd a osodaist arnom ni am ein pechodau: ac arglwyddiaethu y maent ar ein cyrff, ac ar ein hanifeiliaid, yn ôl eu hewyllys; ac yr ydym mewn cyfyngder mawr. 38 Ac oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfamod sicr, ac yn ei ysgrifennu; ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid, a’n hoffeiriaid, yn ei selio.

10 A’r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia, Seraia, Asareia, Jeremeia, Pasur, Amareia, Malcheia, Hattus, Sebaneia, Maluch, Harim, Meremoth, Obadeia, Daniel, Ginnethon, Baruch, Mesulam, Abeia, Miamin, Maaseia, Bilgai, Semaia: dyma yr offeiriaid. A’r Lefiaid: Jesua mab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel; 10 A’u brodyr hwynt; Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan, 11 Micha, Rehob, Hasabeia, 12 Saccur, Serebeia, Sebaneia, 13 Hodeia, Bani, Beninu. 14 Penaethiaid y bobl; Paros, Pahath‐Moab, Elam, Sattu, Bani, 15 Bunni, Asgad, Bebai, 16 Adoneia, Bigfai, Adin, 17 Ater, Hisceia, Assur, 18 Hodeia, Hasum, Besai, 19 Hariff, Anathoth, Nebai, 20 Magpias, Mesulam, Hesir, 21 Mesesabeel, Sadoc, Jadua, 22 Pelatia, Hanan, Anaia, 23 Hosea, Hananeia, Hasub, 24 Halohes, Pileha, Sobec, 25 Rehum, Hasabna, Maaseia, 26 Ac Ahïa, Hanan, Anan, 27 Maluch, Harim, Baana.

28 A’r rhan arall o’r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a’r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith Dduw, eu gwragedd hwynt, eu meibion, a’u merched, pawb a’r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo; 29 Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith Dduw, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas Duw: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr Arglwydd ein Harglwydd ni, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau: 30 Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni: 31 Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled. 32 A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein Duw ni, 33 A thuag at y bara gosod, a’r bwyd‐offrwm gwastadol, a thuag at y poethoffrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pech-ebyrth, i wneuthur cymod dros Israel; a thuag at holl waith tŷ ein Duw. 34 A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i’w llosgi ar allor yr Arglwydd ein Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith: 35 Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr Arglwydd: 36 A’r rhai cyntaf‐anedig o’n meibion, ac o’n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a chyntaf‐anedigion ein gwartheg a’n defaid, i’w dwyn i dŷ ein Duw, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni. 37 A blaenion ein toes, a’n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw, a degwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni. 38 A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda’r Lefiaid, pan fyddo’r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni, i’r celloedd yn y trysordy. 39 Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, i’r ystafelloedd, lle y mae llestri’r cysegr, a’r offeiriaid sydd yn gweini, a’r porthorion, a’r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.