Chronological
1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni. 2 A’r Arglwydd a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ Dduw; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.
3 A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, ac o’r tywysogion, 4 Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid. 5 A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin. 6 Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: 7 A’r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.
8 A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi. 9 A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda’r pen‐ystafellydd. 10 A’r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin. 11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia, 12 Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i’w bwyta, a dwfr i’w yfed. 13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision. 14 Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau. 15 Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin. 16 Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
17 A’r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion. 18 Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen‐ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor. 19 A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin. 20 Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef. 21 A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus.
2 Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor, y breuddwydiodd Nebuchodonosor freuddwydion, a thrallodwyd ei ysbryd ef, a’i gwsg a dorrodd oddi wrtho. 2 A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin. 3 A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd. 4 Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd i’th weision, a mynegwn y dehongliad. 5 Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, a’i ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, a’ch tai a osodir yn domen. 6 Ond os y breuddwyd a’i ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o’m blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, a’i ddehongliad. 7 Atebasant eilwaith a dywedasant, Dyweded y brenin y breuddwyd i’w weision, ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef. 8 Atebodd y brenin a dywedodd, Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf. 9 Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, un gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o’m blaen, nes newid yr amser: am hynny dywedwch i mi y breuddwyd, a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef.
10 Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead. 11 Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd. 12 O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon. 13 Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a’i gyfeillion i’w lladd.
14 Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, pen‐distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon: 15 Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel. 16 Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin. 17 Yna yr aeth Daniel i’w dŷ, ac a fynegodd y peth i’w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia; 18 Fel y ceisient drugareddau gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a’i gyfeillion gyda’r rhan arall o ddoethion Babilon.
19 Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd. 20 Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef: 21 Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion, a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall: 22 Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo. 23 Tydi Dduw fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi, a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt: canys gwnaethost i ni wybod yr hyn a ofynnodd y brenin.
24 Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i’r brenin y dehongliad. 25 Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad. 26 Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a’i ddehongliad? 27 Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn: 28 Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma: 29 Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd. 30 Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o’u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i’r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.
31 Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a’r olwg arni ydoedd ofnadwy. 32 Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a’i breichiau o arian, ei bol a’i morddwydydd o bres, 33 Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd. 34 Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a’u maluriodd hwynt. 35 Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a’r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear.
36 Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin. 37 Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant. 38 A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw. 39 Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear. 40 Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi. 41 A lle y gwelaist y traed a’r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd. 42 Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau. 43 A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd. 44 Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd. 45 Lle y gwelaist dorri carreg o’r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a’r aur; hysbysodd y Duw mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a’i ddehongliad yn ffyddlon.
46 Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl‐darth. 47 Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn. 48 Yna y brenin a fawrygodd Daniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe a’i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac yn ben i’r swyddogion ar holl ddoethion Babilon. 49 Yna Daniel a ymbiliodd â’r brenin, ac yntau a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon: ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.
3 Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchder oedd yn drigain cufydd, ei lled yn chwe chufydd; ac efe a’i gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura, o fewn talaith Babilon. 2 Yna Nebuchodonosor y brenin a anfonodd i gasglu ynghyd y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, i ddyfod wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin. 3 Yna y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, a ymgasglasant ynghyd wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin: a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor. 4 A chyhoeddwr a lefodd yn groch, Wrthych chwi, bobloedd, genhedloedd, a ieithoedd, y dywedir, 5 Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch, ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin. 6 A’r hwn ni syrthio ac ni addolo, yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth. 7 Am hynny yr amser hwnnw, pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, a syrthiasant, ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.
8 O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gwŷr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon. 9 Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin, Bydd fyw, frenin, yn dragywydd. 10 Ti, frenin, a osodaist orchymyn, ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a’r symffon, a phob rhyw gerdd, syrthio ac ymgrymu i’r ddelw aur: 11 A phwy bynnag ni syrthiai ac nid ymgrymai, y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth. 12 Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i’r ddelw aur a gyfodaist.
13 Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach, Mesach, ac Abednego. Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin. 14 Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt, Ai gwir hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego? oni addolwch chwi fy nuwiau i, ac oni ymgrymwch i’r ddelw aur a gyfodais i? 15 Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a’r symffon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymu i’r ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth; a pha Dduw yw efe a’ch gwared chwi o’m dwylo i? 16 Sadrach, Mesach, ac Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn. 17 Wele, y mae ein Duw ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl i’n gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth: ac efe a’n gwared ni o’th law di, O frenin. 18 Ac onid e, bydded hysbys i ti, frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn i’th ddelw aur a gyfodaist.
19 Yna y llanwyd Nebuchodonosor o lidiowgrwydd, a gwedd ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi. 20 Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth. 21 Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, a’u cwcyllau, a’u dillad eraill, ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth. 22 Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego. 23 A’r triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym. 24 Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin, ac y cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin. 25 Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab Duw.
26 Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân. 27 A’r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn o’u pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tân arnynt. 28 Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel, ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i’w Duw eu hun. 29 Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyn Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a’u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn. 30 Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.