Chronological
28 Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd, 2 Ha fab dyn, dywed wrth dywysog Tyrus, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am falchïo dy galon, a dywedyd ohonot, Duw ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw yng nghanol y moroedd; a thi yn ddyn, ac nid yn Dduw, er gosod ohonot dy galon fel calon Duw: 3 Wele di yn ddoethach na Daniel; ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthyt: 4 Trwy dy ddoethineb a’th ddeallgarwch y cefaist gyfoeth i ti, ie, y cefaist aur ac arian i’th drysorau: 5 Trwy dy fawr ddoethineb ac wrth dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth, a’th galon a falchïodd oherwydd dy gyfoeth: 6 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am osod ohonot dy galon fel calon Duw, 7 Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i’th erbyn ddieithriaid, y trawsaf o’r cenhedloedd; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb, a halogant dy loywder. 8 Disgynnant di i’r ffos, a byddi farw o farwolaeth yr archolledig yng nghanol y môr. 9 Gan ddywedyd a ddywedi di o flaen dy leiddiad, Duw ydwyf fi? a thi a fyddi yn ddyn, ac nid yn Dduw, yn llaw dy leiddiad. 10 Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig, trwy law dieithriaid: canys myfi a’i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.
11 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, 12 Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch, 13 Ti a fuost yn Eden, gardd Duw: pob maen gwerthfawr a’th orchuddiai, sardius, topas, ac adamant, beryl, onics, a iasbis, saffir, rubi, a smaragdus, ac aur: gwaith dy dympanau a’th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y’th grewyd. 14 Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio; ac felly y’th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw: ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd. 15 Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y’th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd. 16 Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny y’th halogaf allan o fynydd Duw, ac y’th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd. 17 Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i’r llawr; o flaen brenhinoedd y’th osodaf, fel yr edrychont arnat. 18 Trwy amlder dy anwiredd, ag anwiredd dy farchnadaeth, yr halogaist dy gysegroedd: am hynny y dygaf dân allan o’th ganol, hwnnw a’th ysa; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a’th welant. 19 Y rhai a’th adwaenant oll ymysg y bobloedd, a synnant o’th achos: dychryn fyddi, ac ni byddi byth.
20 Yna gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 21 Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Sidon, a phroffwyda yn ei herbyn hi, 22 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, Sidon; fel y’m gogonedder yn dy ganol, ac y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf ynddi farnedigaethau, ac y’m sancteiddier ynddi. 23 Canys anfonaf iddi haint, a gwaed i’w heolydd; a bernir yr archolledig o’i mewn â’r cleddyf, yr hwn fydd arni oddi amgylch; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
24 Ac ni bydd mwy i dŷ Israel, o’r holl rai o’u hamgylch a’r a’u dirmygasant, ysbyddaden bigog, na draenen ofidus; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw. 25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan gasglwyf dŷ Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i’m gwas Jacob. 26 Ie, trigant ynddi yn ddiogel, ac adeiladant dai, a phlannant winllannoedd; a phreswyliant mewn diogelwch, pan wnelwyf farnedigaethau â’r rhai oll a’u dirmygant hwy o’u hamgylch; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw.
29 Yn y degfed mis o’r ddegfed flwyddyn, ar y deuddegfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aifft oll. 3 Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, Pharo brenin yr Aifft, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a’i gwneuthum hi i mi fy hun. 4 Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau. 5 A mi a’th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd: syrthi ar wyneb y maes, ni’th gesglir, ac ni’th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y’th roddais yn ymborth. 6 A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel. 7 Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl ysgwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost i’w holl arennau sefyll.
8 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail. 9 A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd: am iddo ddywedyd, Eiddof fi yw yr afon, a myfi a’i gwneuthum. 10 Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig, ac yn anghyfannedd, o dŵr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia. 11 Ni chyniwair troed dyn trwyddi, ac ni chyniwair troed anifail trwyddi, ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd. 12 A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.
13 Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt. 14 A dychwelaf gaethiwed yr Aifft, ie, dychwelaf hwynt i dir Pathros, i dir eu preswylfa; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel. 15 Isaf fydd o’r breniniaethau, ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd; canys lleihaf hwynt, rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd. 16 Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder, yn dwyn ar gof eu hanwiredd, pan edrychont hwy ar eu hôl hwythau: eithr cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.
17 Ac yn y mis cyntaf o’r seithfed flwyddyn ar hugain, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 18 Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i’w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddinoethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i’w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi: 19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymer ei lliaws hi, ac a ysbeilia ei hysbail hi, ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog i’w lu ef. 20 Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dir yr Aifft; oherwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd Dduw.
21 Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro, a rhoddaf i tithau agoriad genau yn eu canol hwynt: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
30 A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2 Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Udwch, Och o’r diwrnod! 3 Canys agos dydd, ie, agos dydd yr Arglwydd, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe. 4 A’r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau. 5 Ethiopia, a Libya, a Lydia, a’u gwerin oll, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf. 6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene, medd yr Arglwydd Dduw. 7 A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig. 8 A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf dân yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi. 9 Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon. 11 Efe a’i bobl gydag ef, y rhai trawsion o’r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad â chelanedd. 12 Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a’i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr Arglwydd a’i dywedodd. 13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i’r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft. 14 Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No. 15 A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No. 16 A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd. 17 Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy. 18 Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a’i cuddia hi, a’i merched a ânt i gaethiwed. 19 Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
20 Ac yn y mis cyntaf o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 21 Ha fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i’w gryfhau i ddal y cleddyf. 22 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a’r hwn oedd ddrylliedig; ac a wnaf i’r cleddyf syrthio o’i law ef. 23 A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd. 24 A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharo, ac efe a ochain o’i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig. 25 Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharo a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft. 26 A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd
31 Ac yn y trydydd mis o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Dywed, fab dyn, wrth Pharo brenin yr Aifft, ac wrth ei liaws, I bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd?
3 Wele, Assur oedd gedrwydden yn Libanus, yn deg ei cheinciau, a’i brig yn cysgodi, ac yn uchel ei huchder, a’i brigyn oedd rhwng y tewfrig. 4 Dyfroedd a’i maethasai hi, y dyfnder a’i dyrchafasai, â’i hafonydd yn cerdded o amgylch ei phlanfa; bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes. 5 Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes, a’i cheinciau a amlhasant, a’i changhennau a ymestynasant, oherwydd dyfroedd lawer, pan fwriodd hi allan. 6 Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi. 7 Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hyd ei brig; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer. 8 Y cedrwydd yng ngardd Duw ni allent ei chuddio hi: y ffynidwydd nid oeddynt debyg i’w cheinciau hi, a’r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch. 9 Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau: a holl goed Eden, y rhai oedd yng ngardd Duw, a genfigenasant wrthi hi.
10 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder, a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig, ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder; 11 Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd: gan wneuthur y gwna efe iddi; am ei drygioni y bwriais hi allan. 12 A dieithriaid, rhai ofnadwy y cenhedloedd, a’i torasant hi ymaith, ac a’i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a’i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o’i chysgod hi, ac a’i gadawsant hi. 13 Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi; 14 Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig, ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghanol meibion dynion, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y disgynnodd hi i’r bedd, gwneuthum alaru: toais y dyfnder amdani hi, ac ateliais ei hafonydd, fel yr ataliwyd dyfroedd lawer; gwneuthum i Libanus alaru amdani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair amdani hi. 16 Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll; a holl goed Eden, y dewis a’r gorau yn Libanus, y dyfradwy oll, a ymgysurant yn y tir isaf. 17 Hwythau hefyd gyda hi a ddisgynnant i uffern at laddedigion y cleddyf, a’r rhai oedd fraich iddi hi, y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd.
18 I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i’r tir isaf; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf. Dyma Pharo a’i holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.