Chronological
8 Drachefn y daeth gair Arglwydd y lluoedd ataf, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti. 3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Seion, a thrigaf yng nghanol Jerwsalem; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd Arglwydd y lluoedd, Y mynydd sanctaidd. 4 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem, a phob gŵr â’i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau. 5 A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi. 6 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, ai anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd Arglwydd y lluoedd. 7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir machludiad haul. 8 A mi a’u dygaf hwynt, fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn Dduw mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.
9 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd, fel yr adeiledid y deml. 10 Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i’r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog. 11 Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd Arglwydd y lluoedd. 12 Canys bydd yr had yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a’r ddaear a rydd ei chynnyrch, a’r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn. 13 A bydd, mai megis y buoch chwi, tŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y’ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo. 14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y’m digiodd eich tadau, medd Arglwydd y lluoedd, ac nid edifarheais; 15 Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dŷ Jwda: nac ofnwch.
16 Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth; 17 Ac na fwriedwch ddrwg neb i’w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr Arglwydd.
18 A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 19 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch. 20 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer: 21 Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall, gan ddywedyd, Awn gan fyned i weddïo gerbron yr Arglwydd, ac i geisio Arglwydd y lluoedd: minnau a af hefyd. 22 Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerwsalem, ac i weddïo gerbron yr Arglwydd. 23 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gŵr o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom fod Duw gyda chwi.
9 Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd, fel yr eiddo holl lwythau Israel. 2 A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn. 3 A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd. 4 Wele, yr Arglwydd a’i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân. 5 Ascalon a’i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o’i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir. 6 Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid. 7 A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau, a’i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i’n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad. 8 A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â’m llygaid.
9 Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen. 10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a’r march oddi wrth Jerwsalem, a’r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd: a’i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear. 11 A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o’r pydew heb ddwfr ynddo.
12 Trowch i’r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg: 13 Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y’th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus: 14 A’r Arglwydd a welir trostynt, a’i saeth ef a â allan fel mellten: a’r Arglwydd Dduw a gân ag utgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau. 15 Arglwydd y lluoedd a’u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor. 16 A’r Arglwydd eu Duw a’u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef. 17 Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc, a gwin y gwyryfon.
10 Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar law; a’r Arglwydd a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes. 2 Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a’r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail. 3 Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda, ac a’u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel. 4 Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.
5 A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch. 6 A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac a’u gwrandawaf hwynt. 7 Bydd Effraim hefyd fel cawr, a’u calonnau a lawenychant fel trwy win: a’u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd. 8 Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant. 9 A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y’m cofiant, a byddant fyw gyda’u plant, a dychwelant. 10 A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt. 11 Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith. 12 Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Arglwydd.
11 Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd. 2 Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf.
3 Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen. 4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw; Portha ddefaid y lladdfa; 5 Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, am fy nghyfoethogi: a’u bugeiliaid nid arbedant hwynt. 6 Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr Arglwydd; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o’u llaw hwy. 7 A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a’r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd. 8 A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a’m henaid a alarodd arnynt hwy, a’u henaid hwythau a’m ffieiddiodd innau. 9 Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i’w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a’r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.
10 A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â’r holl bobl. 11 A’r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr Arglwydd oedd hyn. 12 A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a’m gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian. 13 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i’r crochenydd: pris teg â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i’r crochenydd. 14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl. 16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt. 17 Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a’i lygad deau gan dywyllu a dywylla.
12 Baich gair yr Arglwydd i Israel, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo. 2 Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i’r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.
3 A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i’r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef, yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef. 4 Y diwrnod hwnnw, medd yr Arglwydd, y trawaf bob march â syndra, a’i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb. 5 A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.
6 Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem. 7 Yr Arglwydd a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda. 8 Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr Arglwydd breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o’u blaen hwynt.
9 Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem. 10 A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig. 11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon. 12 A’r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; 13 Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; 14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain.
13 Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.
2 A bydd y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o’r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o’r wlad. 3 A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a’i fam a’i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr Arglwydd: a’i dad a’i fam a’i cenedlasant ef a’i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo. 4 A bydd y dydd hwnnw, i’r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo: 5 Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid. 6 A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.
7 Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: taro y bugail, a’r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain. 8 A bydd yn yr holl dir, medd yr Arglwydd, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a’r drydedd a adewir ynddo. 9 A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a’u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr Arglwydd yw fy Nuw.
14 Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, a rhennir dy ysbail yn dy ganol di. 2 Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a’r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a’r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed, a’r rhan arall o’r bobl nis torrir ymaith o’r ddinas. 3 A’r Arglwydd a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad.
4 A’i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua’r dwyrain a thua’r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua’r gogledd, a’i hanner tua’r deau. 5 A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal: a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda: a daw yr Arglwydd fy Nuw, a’r holl saint gyda thi. 6 A’r dydd hwnnw y daw i ben, na byddo goleuni disglair, na thywyll: 7 Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr Arglwydd, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr. 8 A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, a’u hanner tua’r môr eithaf: haf a gaeaf y bydd hyn. 9 A’r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un Arglwydd, a’i enw yn un. 10 Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o’r tu deau i Jerwsalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanheddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dŵr Hananeel hyd winwryfau y brenin. 11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd.
12 A hyn fydd y pla â’r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a’u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a’u tafod a dderfydd yn eu safn. 13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a’i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog. 14 A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn. 15 Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, yr asyn, a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn, fel y pla hwn.
16 A bydd i bob un a adawer o’r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem, fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ac i gadw gŵyl y pebyll. 17 A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ni bydd glaw arnynt. 18 Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â’r hwn y tery yr Arglwydd y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gŵyl y pebyll. 19 Hyn a fydd cosb yr Aifft, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gŵyl y pebyll.
20 Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd fel meiliau gerbron yr allor. 21 Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i Arglwydd y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymerant ohonynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.