Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseciel 44-45

44 Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain, ac yr oedd yn gaead. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y porth hwn fydd gaead; nid agorir ef, ac nid â neb i mewn trwyddo ef: oherwydd Arglwydd Dduw Israel a aeth i mewn trwyddo ef; am hynny y bydd yn gaead. I’r tywysog y mae; y tywysog, efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr Arglwydd: ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn, a hyd ffordd yr un yr â efe allan.

Ac efe a’m dug i ffordd porth y gogledd o flaen y tŷ: a mi a edrychais, ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd dŷ yr Arglwydd: a mi a syrthiais ar fy wyneb. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Gosod dy galon, fab dyn, a gwêl â’th lygaid, clyw hefyd â’th glustiau, yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt, am holl ddeddfau tŷ yr Arglwydd, ac am ei holl gyfreithiau; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o’r cysegr. A dywed wrth y gwrthryfelgar, sef tŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tŷ Israel, o’ch holl ffieidd‐dra; Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i’w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a’r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd‐dra chwi. Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni ddaw i’m cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o’r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel. 10 A’r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd. 11 Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i’r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o’u blaen hwy i’w gwasanaethu hwynt. 12 Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod, a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd Dduw, a hwy a ddygant eu hanwiredd. 13 Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesáu at yr un o’m pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a’u ffieidd‐dra a wnaethant. 14 Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo.

15 Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt‐hwy a nesânt ataf fi i’m gwasanaethu, ac a safant o’m blaen i offrymu i mi y braster a’r gwaed, medd yr Arglwydd Iôr: 16 Hwy a ânt i mewn i’m cysegr, a hwy a nesânt at fy mwrdd i’m gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwraeth.

17 A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn, gwisgant wisgoedd lliain; ac na ddeued gwlân amdanynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn, ac o fewn. 18 Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt: nac ymwregysant â dim a baro chwys. 19 A phan elont i’r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i’r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl â’u gwisgoedd. 20 Eu pennau hefyd nid eilliant, ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes: gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau. 21 Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i’r cyntedd nesaf i mewn. 22 Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had tŷ Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant. 23 A dysgant i’m pobl ragor rhwng y sanctaidd a’r halogedig, a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân. 24 Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a’m deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau. 25 Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi. 26 Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod. 27 A’r dydd yr elo i’r cysegr, o fewn y cyntedd nesaf i mewn, i weini yn y cysegr, offrymed ei bech‐aberth, medd yr Arglwydd Dduw. 28 A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy. Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel; myfi yw eu perchenogaeth hwy. 29 Y bwyd‐offrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd, a fwytânt hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy. 30 A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll o’ch holl offrymau, fydd eiddo yr offeiriaid: blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i’r offeiriad, i osod bendith ar dy dŷ. 31 Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun, neu ysglyfaeth o aderyn neu o anifail.

45 A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, yr offrymwch i’r Arglwydd offrwm cysegredig o’r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch. O hyn y bydd i’r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongl oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch. Ac o’r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a’r lle sancteiddiolaf. Y rhan gysegredig o’r tir fydd i’r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cysegr, y rhai a nesânt i wasanaethu yr Arglwydd; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gysegrfa i’r cysegr. A’r pum mil ar hugain o hyd, a’r dengmil o led, fydd hefyd i’r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.

Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenogaeth i’r ddinas, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig: i holl dŷ Israel y bydd hyn.

A rhan fydd i’r tywysog o’r tu yma ac o’r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du y gorllewin tua’r gorllewin, ac o du y dwyrain tua’r dwyrain: a’r hyd fydd ar gyfer pob un o’r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain. Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a’r rhan arall o’r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd Dduw. 10 Bydded gennych gloriannau uniawn, ac effa uniawn, a bath uniawn. 11 Bydded yr effa a’r bath un fesur; gan gynnwys o’r bath ddegfed ran homer, a’r effa ddegfed ran homer: wrth yr homer y bydd eu mesur hwynt. 12 Y sicl fydd ugain gera: ugain sicl, a phum sicl ar hugain, a phymtheg sicl, fydd mane i chwi. 13 Dyma yr offrwm a offrymwch: chweched ran effa o homer o wenith; felly y rhoddwch chweched ran effa o homer o haidd. 14 Am ddeddf yr olew, bath o olew, degfed ran bath a roddwch o’r corus; yr hyn yw homer o ddeg bath: oherwydd deg bath yw homer. 15 Un milyn hefyd o’r praidd a offrymwch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd‐offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd, i wneuthur cymod drostynt, medd yr Arglwydd Dduw. 16 Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i’r tywysog yn Israel. 17 Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd‐offrwm, a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau, a’r newyddloerau, a’r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech‐aberth, a bwyd‐offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel. 18 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaith‐gwbl, ac y puri y cysegr. 19 Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth, ac a’i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn. 20 Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o’r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ. 21 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch. 22 A’r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech‐aberth. 23 A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i’r Arglwydd, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaith‐gwbl, bob dydd o’r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech‐aberth bob dydd. 24 Bwyd‐offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda’r effa. 25 Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod; sef fel y pech‐aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd‐offrwm, ac fel yr olew.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.