Chronological
6 Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin. 2 Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, o’r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus. 3 A dywedodd y brenin, Pa anrhydedd neu fawredd a wnaed i Mordecai am hyn? A gweision y brenin, sef ei weinidogion ef, a ddywedasant, Ni wnaed dim erddo ef.
4 A’r brenin a ddywedodd, Pwy sydd yn y cyntedd? A Haman a ddaethai i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin, i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesai efe iddo. 5 A gweision y brenin a ddywedasant wrtho, Wele Haman yn sefyll yn y cyntedd. A dywedodd y brenin, Deled i mewn. 6 A phan ddaeth Haman i mewn, dywedodd y brenin wrtho, Beth a wneir i’r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu? Yna Haman a ddywedodd yn ei galon, I bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi? 7 A Haman a ddywedodd wrth y brenin, Y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, 8 Dygant y wisg frenhinol iddo, yr hon a wisg y brenin, a’r march y merchyg y brenin arno, a rhodder y frenhinol goron am ei ben ef: 9 A rhodder y wisg, a’r march, yn llaw un o dywysogion ardderchocaf y brenin, a gwisgant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, a pharant iddo farchogaeth ar y march trwy heol y ddinas, a chyhoeddant o’i flaen ef, Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu. 10 Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman, Brysia, cymer y wisg a’r march, fel y lleferaist, a gwna felly i Mordecai yr Iddew, yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na ad heb wneuthur ddim o’r hyn oll a leferaist. 11 Felly Haman a gymerth y wisg a’r march, ac a wisgodd am Mordecai, ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth trwy heol y ddinas, ac a gyhoeddodd o’i flaen ef, Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu.
12 A dychwelodd Mordecai i borth y brenin. A Haman a frysiodd i’w dŷ yn alarus, wedi gorchuddio ei ben. 13 A Haman a adroddodd i Seres ei wraig, ac i’w holl garedigion, yr hyn oll a ddigwyddasai iddo. Yna ei ddoethion, a Seres ei wraig, a ddywedasant wrtho, Os o had yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio o’i flaen, ni orchfygi mohono, ond gan syrthio y syrthi o’i flaen ef. 14 Tra yr oeddynt hwy eto yn ymddiddan ag ef, ystafellyddion y brenin a ddaethant, ac a gyrchasant Haman ar frys i’r wledd a wnaethai Esther.
7 Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines. 2 A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti; a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a’i cwblheir. 3 A’r frenhines Esther a atebodd, ac a ddywedodd, O chefais ffafr yn dy olwg di, O frenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin, rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad, a’m pobl ar fy neisyfiad. 4 Canys gwerthwyd ni, myfi a’m pobl, i’n dinistrio, i’n lladd, ac i’n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin.
5 Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly? 6 A dywedodd Esther, Y gwrthwynebwr a’r gelyn yw yr Haman drygionus hwn. Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a’r frenhines.
7 A’r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin, ac a aeth i ardd y palas: a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin. 8 Yna y dychwelodd y brenin o ardd y palas i dŷ cyfeddach y gwin. Ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwely yr oedd Esther arno. Yna y dywedodd y brenin, Ai treisio y frenhines hefyd y mae efe yn tŷ gyda mi? Hwy’n gyntaf ag yr aeth y gair allan o enau y brenin, hwy a orchuddiasant wyneb Haman. 9 A Harbona, un o’r ystafellyddion, a ddywedodd yng ngŵydd y brenin, Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddeg cufydd a deugain o uchder. Yna y dywedodd y brenin, Crogwch ef ar hwnnw. 10 Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd.
8 Y dwthwn hwnnw y rhoddodd y brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon. A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin; canys Esther a fynegasai beth oedd efe iddi hi. 2 A’r brenin a dynnodd ymaith y fodrwy a gymerasai efe oddi wrth Haman, ac a’i rhoddodd i Mordecai. Ac Esther a osododd Mordecai ar dŷ Haman.
3 Ac Esther a lefarodd drachefn gerbron y brenin, ac a syrthiodd wrth ei draed ef; wylodd hefyd, ac ymbiliodd ag ef am fwrw ymaith ddrygioni Haman yr Agagiad, a’i fwriad yr hwn a fwriadasai efe yn erbyn yr Iddewon. 4 A’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur tuag at Esther. Yna Esther a gyfododd, ac a safodd o flaen y brenin, 5 Ac a ddywedodd, O bydd bodlon gan y brenin, ac o chefais ffafr o’i flaen ef, ac od ydyw y peth yn iawn gerbron y brenin, a minnau yn gymeradwy yn ei olwg ef; ysgrifenner am alw yn ôl lythyrau bwriad Haman mab Hammedatha yr Agagiad, y rhai a ysgrifennodd efe i ddifetha’r Iddewon sydd trwy holl daleithiau y brenin. 6 Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaiff fy mhobl? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifetha fy nghenedl?
7 A’r brenin Ahasferus a ddywedodd wrth Esther y frenhines, ac wrth Mordecai yr Iddew, Wele, tŷ Haman a roddais i Esther, a hwy a’i crogasant ef ar y pren, am iddo estyn ei law yn erbyn yr Iddewon. 8 Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda, yn enw y brenin, ac inseliwch â modrwy y brenin: canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin, ni all neb ei datroi. 9 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis, hwnnw yw y mis Sifan, ar y trydydd dydd ar hugain ohono, ac ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, ac at y rhaglawiaid, y penaduriaid hefyd, a thywysogion y taleithiau, y rhai oedd o India hyd Ethiopia, sef cant a saith ar hugain o daleithiau, i bob talaith wrth ei hysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith: at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tafodiaith. 10 Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac a’i seliodd â modrwy y brenin; ac a anfonodd lythyrau gyda’r rhedegwyr yn marchogaeth ar feirch, dromedariaid, mulod, ac ebolion cesig: 11 Trwy y rhai y caniataodd y brenin i’r Iddewon, y rhai oedd ym mhob dinas, ymgynnull, a sefyll am eu heinioes, i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl allu y bobl a’r dalaith a osodai arnynt, yn blant ac yn wragedd, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt; 12 Mewn un dydd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar. 13 Testun yr ysgrifen, i roddi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i bob rhyw bobl; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion. 14 Y rhedegwyr, y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a’r mulod, a aethant ar frys, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys.
15 A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd: 16 I’r Iddewon yr oedd goleuni, a llawenydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd. 17 Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a’i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.
9 Felly yn y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, pan nesaodd gair y brenin a’i orchymyn i’w cwblhau; yn y dydd y gobeithiasai gelynion yr Iddewon y caent fuddugoliaethu arnynt, (ond yn y gwrthwyneb i hynny y bu, canys yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion;) 2 Yr Iddewon a ymgynullasant yn eu dinasoedd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, i estyn llaw yn erbyn y rhai oedd yn ceisio niwed iddynt: ac ni safodd neb yn eu hwynebau; canys eu harswyd a syrthiasai ar yr holl bobloedd. 3 A holl dywysogion y taleithiau, a’r pendefigion, a’r dugiaid, a’r rhai oedd yn gwneuthur y gwaith oedd eiddo y brenin, oedd yn cynorthwyo’r Iddewon: canys arswyd Mordecai a syrthiasai arnynt hwy. 4 Canys mawr oedd Mordecai yn nhŷ y brenin, a’i glod ef oedd yn myned trwy yr holl daleithiau: oherwydd y gŵr hwn Mordecai oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu. 5 Felly yr Iddewon a drawsant eu holl elynion â dyrnod y cleddyf, a lladdedigaeth, a distryw; a gwnaethant i’w caseion yn ôl eu hewyllys eu hun. 6 Ac yn Susan y brenhinllys, yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant bum cant o wŷr. 7 Parsandatha hefyd, a Dalffon, ac Aspatha, 8 Poratha hefyd, ac Adalia, ac Aridatha, 9 Parmasta hefyd, ac Arisai, Aridai hefyd, a Bajesatha, 10 Deng mab Haman mab Hammedatha, gwrthwynebwr yr Iddewon, a laddasant hwy: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.
11 Y dwthwn hwnnw nifer y lladdedigion yn Susan y brenhindy a ddaeth gerbron y brenin. 12 A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines, Yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant yn Susan y brenhinllys, bum cant o wŷr, a deng mab Haman; yn y rhan arall o daleithiau y brenin beth a wnaethant hwy? beth gan hynny yw dy ddymuniad? ac fe a roddir i ti; a pheth yw dy ddeisyfiad ymhellach? ac fe a’i gwneir. 13 Yna y dywedodd Esther, O rhyglydda bodd i’r brenin, caniataer yfory i’r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddiw: a chrogant ddeng mab Haman ar y pren. 14 A’r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a’r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwy a grogasant ddeng mab Haman. 15 Felly yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar hefyd, ac a laddasant dri chant o wŷr yn Susan: ond nid estynasant eu llaw ar yr ysbail. 16 A’r rhan arall o’r Iddewon, y rhai oedd yn nhaleithiau y brenin a ymgasglasant, ac a safasant am eu heinioes, ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion, ac a laddasant bymtheng mil a thrigain o’u caseion: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith. 17 Ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar y bu hyn, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono y gorffwysasant, ac y cynaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd. 18 Ond yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant, a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd. 19 Am hynny Iddewon y pentrefi, y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau, oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis Adar, mewn llawenydd a chyfeddach, ac yn ddiwrnod daionus, ac i anfon rhannau i’w gilydd.
20 A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos ac ymhell, 21 I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar, a’r pymthegfed dydd ohono, bob blwyddyn; 22 Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus. 23 A’r Iddewon a gymerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent, ac fel yr ysgrifenasai Mordecai atynt. 24 Canys Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr holl Iddewon, a arfaethasai yn erbyn yr Iddewon, am eu difetha hwynt; ac efe a fwriasai Pwr, hwnnw yw y coelbren, i’w dinistrio hwynt, ac i’w difetha: 25 A phan ddaeth Esther o flaen y brenin, efe a archodd trwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a’i grogi ef a’i feibion ar y pren. 26 Am hynny y galwasant y dyddiau hynny Pwrim, ar enw y Pwr: am hynny, oherwydd holl eiriau y llythyr hwn, ac oherwydd y peth a welsent hwy am y peth hyn, a’r peth a ddigwyddasai iddynt, 27 Yr Iddewon a ordeiniasant, ac a gymerasant arnynt, ac ar eu had, ac ar yr holl rai oedd yn un â hwynt, na phallai bod cynnal y ddau ddydd hynny, yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tymor, bob blwyddyn: 28 Ac y byddai y dyddiau hynny i’w cofio, ac i’w cynnal trwy bob cenhedlaeth, a phob teulu, pob talaith, a phob dinas; sef na phallai y dyddiau Pwrim hynny o fysg yr Iddewon, ac na ddarfyddai eu coffadwriaeth hwy o blith eu had. 29 Ac ysgrifennodd Esther y frenhines merch Abihail, a Mordecai yr Iddew, trwy eu holl rym, i sicrhau ail lythyr y Pwrim hwn. 30 Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon, trwy y cant a’r saith dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus, â geiriau heddwch a gwirionedd; 31 I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew, ac Esther y frenhines, iddynt hwy, ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun, a thros eu had, eiriau yr ymprydiau a’u gwaedd. 32 Ac ymadrodd Esther a gadarnhaodd achosion y dyddiau Pwrim hynny: ac ysgrifennwyd hyn mewn llyfr.
10 A’r brenin Ahasferus a osododd dreth ar y wlad, ac ar ynysoedd y môr. 2 A holl weithredoedd ei rym ef, a’i gadernid, a hysbysrwydd o fawredd Mordecai, â’r hwn y mawrhaodd y brenin ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Phersia? 3 Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i’r brenin Ahasferus, ac yn fawr gan yr Iddewon, ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.