Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseciel 42-43

42 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua’r gogledd; ac a’m dug i’r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol, yr hon oedd ar gyfer yr adail tua’r gogledd. Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain. Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i’r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i’r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder. Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a’u drysau tua’r gogledd. A’r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na’r rhai hyn, na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r adeiladaeth. Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r llawr i fyny. A’r mur yr hwn oedd o’r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua’r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd. Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain: ac wele, o flaen y deml yr oedd can cufydd. Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain, ffordd yr elid iddynt hwy o’r cyntedd nesaf allan. 10 O fewn tewder mur y cyntedd tua’r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yr oedd yr ystafelloedd. 11 A’r ffordd o’u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r gogledd; un hyd â hwynt oeddynt, ac un lled â hwynt: a’u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt. 12 Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua’r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.

13 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesânt at yr Arglwydd, y pethau sanctaidd cysegredig: yno y gosodant y sanctaidd bethau cysegredig, a’r bwyd‐offrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd; canys y lle sydd sanctaidd. 14 A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o’r cysegr i’r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt; am eu bod yn sanctaidd; ac a wisgant wisgoedd eraill, ac a nesânt at yr hyn a berthyn i’r bobl. 15 Pan orffenasai efe fesuro y tŷ oddi fewn, efe a’m dug i tua’r porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain, ac a’i mesurodd ef o amgylch ogylch. 16 Efe a fesurodd du y dwyrain â chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch. 17 Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch. 18 Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

19 Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y gorsen fesur. 20 Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a’r digysegr.

43 Ac efe a’m dug i’r porth, sef y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain. Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer, a’r ddaear yn disgleirio o’i ogoniant ef. Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas: a’r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb. A gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i’r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain. Felly yr ysbryd a’m cododd, ac a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd y tŷ. Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o’r tŷ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.

Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt‐hwy, na’u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd. Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a’u gorsin wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â’u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a’u hysais hwy yn fy llid. Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.

10 Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad. 11 Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a’i osodiad, a’i fynediadau allan, a’i ddyfodiadau i mewn, a’i holl ddull, a’i holl ddeddfau, a’i holl ddull, a’i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a’i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt. 12 Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.

13 A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a’r lled yn gufydd, a’i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma le uchaf yr allor. 14 Ac o’r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystôl isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o’r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o led. 15 Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o’r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn. 16 A’r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys. 17 A’r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a’r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a’i gwaelod yn gufydd o amgylch: a’i grisiau yn edrych tua’r dwyrain.

18 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni. 19 Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd Dduw, i’m gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech‐aberth. 20 A chymer o’i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi. 21 Cymeri hefyd fustach y pech‐aberth, ac efe a’i llysg ef yn y lle nodedig i’r tŷ, o’r tu allan i’r cysegr. 22 Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith‐gwbl yn bech‐aberth; a hwy a lanhânt yr allor, megis y glanhasant hi â’r bustach. 23 Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd. 24 Ac o flaen yr Arglwydd yr offrymi hwynt; a’r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a’u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 25 Saith niwrnod y darperi fwch yn bech‐aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o’r praidd, o rai perffaith‐gwbl. 26 Saith niwrnod y cysegrant yr allor, ac y glanhânt hi, ac yr ymgysegrant. 27 A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i’r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a’ch ebyrth hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.