Chronological
1 Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan, 2 Ddyfod o Hanani, un o’m brodyr, efe a gwŷr o Jwda; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o’r caethiwed, ac am Jerwsalem. 3 A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a’i phyrth a losgwyd â thân.
4 A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd; 5 A dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion: 6 Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cyffesu pechodau meibion Israel, y rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom. 7 Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was. 8 Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd: 9 Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt; pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo. 10 A hwy ydynt dy weision a’th bobl, y rhai a waredaist â’th fawr allu, ac â’th law nerthol. 11 Atolwg, Arglwydd, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i’r brenin.
2 Ac ym mis Nisan, yn yr ugeinfed flwyddyn i Artacsercses y brenin, yr oedd gwin o’i flaen ef: a mi a gymerais y gwin, ac a’i rhoddais i’r brenin. Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei fron ef. 2 Am hynny y brenin a ddywedodd wrthyf, Paham y mae dy wynepryd yn drist, a thithau heb fod yn glaf? nid yw hyn ond tristwch calon. Yna yr ofnais yn ddirfawr: 3 A dywedais wrth y brenin, Byw fyddo’r brenin yn dragywydd: paham na thristâi fy wyneb, pan fyddai y ddinas, tŷ beddrod fy nhadau, wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu hysu â thân? 4 A’r brenin a ddywedodd wrthyf, Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar Dduw y nefoedd. 5 A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi. 6 A’r brenin a ddywedodd wrthyf, a’i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser. 7 Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda; 8 A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr elwyf iddo. A’r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy Nuw arnaf fi.
9 Yna y deuthum at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, ac a roddais iddynt lythyrau y brenin. A’r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion gyda mi. 10 Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel. 11 Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem, ac a fûm yno dridiau.
12 A chyfodais liw nos, myfi ac ychydig wŷr gyda mi; ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy Nuw yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem: ac anifail nid oedd gennyf, ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno. 13 A mi a euthum allan liw nos, trwy borth y glyn, ar gyfer ffynnon y ddraig, ac at borth y dom; a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio, a’i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu â thân. 14 Yna y tramwyais i borth y ffynnon, ac at bysgodlyn y brenin: ac nid oedd le i’r anifail oedd danaf i fyned heibio. 15 A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos, ac a ddeliais sylw ar y mur, ac a ddychwelais, ac a ddeuthum trwy borth y glyn, ac felly y troais yn ôl. 16 A’r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i’r Iddewon, nac i’r offeiriaid, nac i’r pendefigion, nac i’r penaethiaid, nac i’r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.
17 Yna y dywedais wrthynt, Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fod Jerwsalem wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu llosgi â thân: deuwch, ac adeiladwn fur Jerwsalem, fel na byddom mwyach yn waradwydd. 18 Yna y mynegais iddynt fod llaw fy Nuw yn ddaionus tuag ataf; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf. A hwy a ddywedasant, Cyfodwn, ac adeiladwn. Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni. 19 Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a’n gwatwarasant ni, ac a’n dirmygasant, ac a ddywedasant, Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin? 20 Yna yr atebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, Duw y nefoedd, efe a’n llwydda ni; a ninnau ei weision ef a gyfodwn, ac a adeiladwn: ond nid oes i chwi ran, na chyfiawnder, na choffadwriaeth yn Jerwsalem.
3 Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a’i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a’i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel. 2 A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho. A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri. 3 A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod; hwynt‐hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau. 4 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia, mab Cos. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia, mab Mesesabeel. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana. 5 A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd. 6 A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau, a’i gloeau, a’i farrau. 7 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad, a Jadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mispa, hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i’r afon. 8 Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussiel mab Harhaia, o’r gofaint aur. Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o’r apothecariaid: a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan. 9 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur, tywysog hanner rhan Jerwsalem. 10 A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd Jedaia mab Harumaff, ar gyfer ei dŷ. A Hattus mab Hasabneia a gyweiriodd gerllaw iddo yntau. 11 Malcheia mab Harim, a Hasub mab Pahath‐Moab, a gyweiriasant ran arall, a thŵr y ffyrnau. 12 A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Halohes, tywysog hanner rhan Jerwsalem, efe a’i ferched. 13 Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Sanoa; hwynt‐hwy a’i hadeiladasant ef, ac a osodasant ei ddorau ef, ei gloeau, a’i farrau, a mil o gufyddau ar y mur, hyd borth y dom. 14 Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab, tywysog rhan o Beth‐haccerem; efe a’i hadeiladodd, ac a osododd ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau. 15 A Salum mab Col‐hose, tywysog rhan o Mispa, a gyweiriodd borth y ffynnon; efe a’i hadeiladodd, ac a’i todd, ac a osododd ei ddorau ef, ei gloeau, a’i farrau, a mur pysgodlyn Siloa, wrth ardd y brenin, a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd. 16 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemeia mab Asbuc, tywysog hanner rhan Beth‐sur, hyd ar gyfer beddrod Dafydd, a hyd y pysgodlyn a wnaethid, a hyd dŷ y cedyrn. 17 Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid, Rehum mab Bani. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Hasabeia, tywysog hanner rhan Ceila, yn ei fro ei hun. 18 Ar ei ôl ef eu brodyr hwynt a gyweiriasant, Bafai mab Henadad, tywysog hanner rhan Ceila. 19 A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Eser mab Jesua, tywysog Mispa, ran arall ar gyfer y ddringfa i dŷ yr arfau, wrth y drofa. 20 Ar ei ôl ef Baruc mab Sabbai yn awyddus a gyweiriodd y mesur arall, o’r drofa hyd ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad. 21 Ar ei ôl ef Meremoth mab Ureia, fab Cos, a gyweiriodd y mesur arall, o ddrws tŷ Eliasib hyd dalcen tŷ Eliasib. 22 Ac ar ei ôl ef yr offeiriaid, gwŷr y gwastadedd, a gyweiriasant. 23 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Benjamin, a Hasub, gyferbyn â’u tŷ. Wedi yntau Asareia mab Maaseia, mab Ananeia, a gyweiriodd wrth ei dŷ. 24 Ar ei ôl yntau Binnui mab Henadad a gyweiriodd fesur arall, o dŷ Asareia hyd y drofa, sef hyd y gongl. 25 Palal mab Usai, ar gyfer y drofa, a’r tŵr sydd yn myned allan o ucheldy y brenin, yr hwn sydd wrth gyntedd y carchar. Ar ei ôl ef, Pedaia mab Paros. 26 A’r Nethiniaid, y rhai oedd yn trigo yn Offel, hyd ar gyfer porth y dwfr, tua’r dwyrain, a’r tŵr oedd yn myned allan. 27 Ar ei ôl yntau y Tecoiaid a gyweiriasant fesur arall, ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan, hyd fur Offel. 28 Oddi ar borth y meirch, yr offeiriaid a gyweiriasant bob un gyferbyn â’i dŷ. 29 Ar eu hôl hwynt Sadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ. Ac ar ei ôl yntau y cyweiriodd Semaia mab Sechaneia, ceidwad porth y dwyrain. 30 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hananeia mab Selemeia, a Hanun chweched mab Salaff, y mesur arall. Ar ei ôl yntau Mesulam mab Berecheia a gyweiriodd ar gyfer ei ystafell. 31 Ar ei ôl yntau Malcheia, mab y gof aur, a gyweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid, a’r marchnadyddion ar gyfer porth Miffcad, hyd ystafell y gongl. 32 A rhwng ystafell y gongl a phorth y defaid, yr eurychod a’r marchnadyddion a gyweiriasant.
4 Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur, efe a gynddeiriogodd ynddo, ac a lidiodd yn ddirfawr, ac a watwarodd yr Iddewon. 2 Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llu Samaria, ac a ddywedodd, Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur? a adewir iddynt hwy? a aberthant? a orffennant mewn diwrnod? a godant hwy y cerrig o’r tyrrau llwch, wedi eu llosgi? 3 A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei ymyl, ac efe a ddywedodd, Er eu bod hwy yn adeiladu, eto ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt. 4 Gwrando, O ein Duw; canys yr ydym yn ddirmygus: dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt, a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed: 5 Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddileer eu pechod hwynt o’th ŵydd di: canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr. 6 Felly nyni a adeiladasom y mur: a chyfannwyd yr holl fur hyd ei hanner: canys yr oedd gan y bobl galon i weithio.
7 Ond pan glybu Sanbalat, a Thobeia, a’r Arabiaid, a’r Ammoniaid, a’r Asdodiaid, gwbl gyweirio muriau Jerwsalem, a dechrau cau yr adwyau; yna y llidiasant yn ddirfawr: 8 A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem, ac i’w rhwystro. 9 Yna y gweddiasom ar ein Duw, ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos, o’u plegid hwynt. 10 A Jwda a ddywedodd, Nerth y cludwyr a wanhaodd, a phridd lawer sydd, fel na allwn ni adeiladu y mur. 11 A’n gwrthwynebwyr a ddywedasant, Ni chânt wybod, na gweled, nes i ni ddyfod i’w mysg hwynt, a’u lladd, a rhwystro eu gwaith hwynt. 12 A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.
13 Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o’r tu ôl i’r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â’u cleddyfau, â’u gwaywffyn, ac â’u bwâu. 14 A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai. 15 A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni, Duw a ddiddymodd eu cyngor hwynt; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i’w waith. 16 Ac o’r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a’u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a’r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda. 17 Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a’r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac â’r llaw arall yn dal arf. 18 Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adeiladu: a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.
19 A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd. 20 Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn, yno ymgesglwch atom. Ein Duw ni a ymladd drosom. 21 Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith: a’u hanner hwynt yn dal gwaywffyn, o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr. 22 Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl, Lletyed pob un â’i was yn Jerwsalem, fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos, a’r dydd mewn gwaith. 23 Felly myfi, a’m brodyr, a’m gweision, a’r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i’w golchi.
5 Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a’u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr. 2 Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a’n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw. 3 Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a’n gwinllannoedd, a’n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn. 4 Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a’n gwinllannoedd. 5 Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision, ac y mae rhai o’n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i’w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a’n gwinllannoedd hyn.
6 Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a’r geiriau hyn. 7 Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a’r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr. 8 Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i’r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb. 9 A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein Duw ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion? 10 Myfi hefyd, a’m brodyr, a’m llanciau, ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd: peidiwn, atolwg, â’r ocraeth yma. 11 Rhoddwch atolwg, iddynt heddiw eu meysydd, eu gwinllannoedd, a’u holewyddlannoedd, a’u tai drachefn; a chanfed ran yr arian, a’r ŷd, y gwin, a’r olew, yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt. 12 Hwythau a ddywedasant, Nyni a’u rhoddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru. Yna y gelwais yr offeiriaid, ac a’u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn. 13 A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo Duw bob gŵr o’i dŷ, ac o’i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A’r holl gynulleidfa a ddywedasant, Amen: ac a folianasant yr Arglwydd. A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.
14 Ac o’r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog. 15 Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o’m blaen i, fuasent drymion ar y bobl, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sicl o arian; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn Duw. 16 Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn, ac ni phrynasom un maes: a’m holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith. 17 Ac yr oedd ar fy mwrdd i, o Iddewon ac o swyddogion, ddengwr a saith ugain, heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o’r cenhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch. 18 A’r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych, chwech o ddefaid dewisol, ac adar wedi eu paratoi i mi; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math, yn ddiamdlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog; canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma. 19 Cofia fi, O fy Nuw, er lles i mi, yn ôl yr hyn oll a wneuthum i’r bobl hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.