Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Esra 7-10

Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia, Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub, Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth, Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci, Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf: Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel: a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef. A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin. Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei Dduw gydag ef. 10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.

11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau ef i Israel. 12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser. 13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi. 14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di; 15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i Dduw Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem, 16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem: 17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a’u bwyd‐offrymau, a’u diod‐offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem. 18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â’r rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw. 19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy Dduw, dod adref o flaen dy Dduw yn Jerwsalem. 20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy Dduw, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin. 21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd; 22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur. 23 Beth bynnag yw gorchymyn Duw y nefoedd, gwneler yn ddyfal i dŷ Duw y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a’i feibion? 24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a’r Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ Dduw hwn, na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth. 25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy Dduw, yr hwn sydd yn dy law, gosod swyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw; a dysgwch y rhai nis medrant. 26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy Dduw, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i’w ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar.

27 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Jerwsalem: 28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr Arglwydd fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi.

A dyma eu pennau‐cenedl hwynt, a’u hachau, y rhai a aeth i fyny gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses y brenin, allan o Babilon. O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion Dafydd; Hattus: O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid. O feibion Pahath‐Moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau cant o wrywiaid. O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o wrywiaid. O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid. Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid. Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid. O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid. 10 Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o wrywiaid. 11 Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid. 12 Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant. 13 Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid. 14 Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid.

15 A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi. 16 Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion: 17 A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw. 18 A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a’i feibion, a’i frodyr, ddeunaw; 19 A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merari, a’i frodyr, a’u meibion, ugain; 20 Ac o’r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau.

21 Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i’n plant, ac i’n golud oll. 22 Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i ceisiant ef, a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef. 23 Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom.

24 Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o’u brodyr gyda hwynt; 25 Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a’i gynghoriaid, a’i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno. 26 Ie, pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur; 27 Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur. 28 A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i’r Arglwydd; a’r llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau. 29 Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phennau‐cenedl Israel yn Jerwsalem, yng nghelloedd tŷ yr Arglwydd. 30 Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a’r aur, a’r llestri, i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni.

31 A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf, i fyned i Jerwsalem: a llaw ein Duw oedd arnom ni, ac a’n gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd. 32 A ni a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau.

33 Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri, yn nhŷ ein Duw ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y Lefiaid, oedd gyda hwynt; 34 Wrth rifedi, ac wrth bwys pob un: a’r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw. 35 Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o’r caethiwed, a offrymasant boethoffrymau i Dduw Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar ugain o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech‐aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r Arglwydd.

36 A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.

Ac wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant ataf fi, gan ddywedyd, Nid ymneilltuodd pobl Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, oddi wrth bobl y gwledydd: gwnaethant yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt; sef y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid, a’r Amoriaid. Canys cymerasant o’u merched iddynt eu hun, ac i’w meibion; a’r had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd: a llaw y penaethiaid a’r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn. Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a’m gwisg, ac a dynnais wallt fy mhen a’m barf, ac a eisteddais yn syn. Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a’r a ofnodd eiriau Duw Israel, am gamwedd y rhai a gaethgludasid; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth prynhawnol.

Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o’m cystudd; ac wedi i mi rwygo fy nillad a’m gwisg, mi a ostyngais ar fy ngliniau, ac a ledais fy nwylo at yr Arglwydd fy Nuw, Ac a ddywedais, O fy Nuw, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti, fy Nuw; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben, a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd. Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i’r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw. Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i adael i ni weddill i ddianc, ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd ef; fel y goleuai ein Duw ein llygaid, ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn ein caethiwed. Canys caethion oeddem ni; ond ni adawodd ein Duw ni yn ein caethiwed, eithr parodd i ni drugaredd o flaen brenhinoedd Persia, i roddi i ni orffwystra i ddyrchafu tŷ ein Duw ni, ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd ef, ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem. 10 Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn, O ein Duw? canys gadawsom dy orchmynion di, 11 Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd, Y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu, gwlad halogedig yw hi, trwy halogedigaeth pobl y gwledydd, oblegid eu ffieidd‐dra hwynt, y rhai a’i llanwasant hi â’u haflendid o gwr bwygilydd. 12 Ac yn awr, na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na’u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth. 13 Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a’n mawr gamwedd, am i ti ein Duw ein cosbi yn llai na’n hanwiredd, a rhoddi i ni ddihangfa fel hyn; 14 A dorrem ni drachefn dy orchmynion di, ac ymgyfathrachu â’r ffiaidd bobl hyn? oni ddigit ti wrthym, nes ein difetha, fel na byddai un gweddill na dihangol? 15 Arglwydd Dduw Israel, cyfiawn ydwyt ti; eithr gweddill dihangol ydym ni, megis heddiw: wele ni o’th flaen di yn ein camweddau; canys ni allwn ni sefyll o’th flaen di am hyn.

10 Ac wedi i Esra weddïo a chyffesu, gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ Dduw, tyrfa fawr o Israel a ymgasglasant ato ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant: canys y bobl a wylasant ag wylofain mawr. Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein Duw, ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad: eto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn. Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfamod â’n Duw, ar fwrw allan yr holl wragedd, a’u plant, wrth gyngor yr Arglwydd, a’r rhai a ofnant orchmynion ein Duw: a gwneler yn ôl y gyfraith. Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi: ymwrola, a gwna. Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant.

Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ Dduw, ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud. A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y gaethglud ymgasglu i Jerwsalem; A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y penaethiaid a’r henuriaid, efe a gollai ei holl olud, ac yntau a ddidolid oddi wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid.

Felly holl wŷr Jwda a Benjamin a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau: hynny oedd y nawfed mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis; a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ Dduw, yn crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd. 10 Ac Esra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a bechasoch, ac a gytaliasoch â gwragedd dieithr, gan ychwanegu ar bechod Israel. 11 Ac yn awr rhoddwch foliant i Arglwydd Dduw eich tadau, a gwnewch ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd dieithr. 12 A holl dyrfa Israel a atebasant, ac a ddywedasant â llef uchel, Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur. 13 Eithr y bobl sydd lawer, a’r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan, ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw: canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn. 14 Safed yn awr ein penaethiaid o’r holl dyrfa, a deued y rhai o’n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid pob dinas, a’u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y peth hyn.

15 Yn unig Jonathan mab Asahel, a Jahaseia mab Ticfa, a osodwyd ar hyn: Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a’u cynorthwyasant hwy. 16 A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a’r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o’r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn. 17 A hwy a wnaethant ben â’r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf.

18 A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a’i frodyr; Maaseia, ac Elieser, a Jarib, a Gedaleia. 19 A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o’r praidd dros eu camwedd. 20 Ac o feibion Immer; Hanani, a Sebadeia. 21 Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac Usseia. 22 Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa. 23 Ac o’r Lefiaid; Josabad, a Simei, a Chelaia, (hwnnw yw Celita,) Pethaheia, Jwda, ac Elieser. 24 Ac o’r cantorion; Eliasib: ac o’r porthorion; Salum, a Thelem, ac Uri. 25 Ac o Israel: o feibion Paros; Rameia, a Jeseia, a Malcheia, a Miamin, ac Eleasar, a Malcheia, a Benaia. 26 Ac o feibion Elam; Mataneia, Sechareia, a Jehiel, ac Abdi, a Jeremoth, ac Eleia. 27 Ac o feibion Sattu; Elioenai, Eliasib, Mataneia, a Jeremoth, a Sabad, ac Asisa. 28 Ac o feibion Bebai; Jehohanan, Hananeia, Sabbai, ac Athlai. 29 Ac o feibion Bani; Mesulam, Maluch, ac Adaia, Jasub, a Seal, a Ramoth. 30 Ac o feibion Pahath‐Moab; Adna, a Chelal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, a Binnui, a Manasse. 31 Ac o feibion Harim; Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon, 32 Benjamin, Maluch, a Semareia. 33 O feibion Hasum; Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse, a Simei. 34 O feibion Bani; Maadai, Amram, ac Uel, 35 Benaia, Bedeia, Celu, 36 Faneia, Meromoth, Eliasib, 37 Mataneia, Matenai, a Jaasau, 38 A Bani, a Binnui, Simei, 39 A Selemeia, a Nathan, ac Adaia, 40 Machnadebai, Sasai, Sarai, 41 Asareel, a Selemeia, a Semareia, 42 Salum, Amareia, a Joseff. 43 O feibion Nebo; Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadua, a Joel, a Benaia. 44 Y rhai hyn oll a gymerasent wragedd dieithr: ac yr oedd i rai ohonynt wragedd a ddygasai blant iddynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.