Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Daniel 7-9

Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, y gwelodd Daniel freuddwyd, a gweledigaethau ei ben ar ei wely. Yna efe a ysgrifennodd y breuddwyd, ac a draethodd swm y geiriau. Llefarodd Daniel, a dywedodd, Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr. A phedwar bwystfil mawr a ddaethant i fyny o’r môr, yn amryw y naill oddi wrth y llall. Y cyntaf oedd fel llew, ac iddo adenydd eryr: edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd, a’i gyfodi oddi wrth y ddaear, a sefyll ohono ar ei draed fel dyn, a rhoddi iddo galon dyn. Ac wele anifail arall, yr ail, yn debyg i arth; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys, ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd: ac fel hyn y dywedent wrtho, Cyfod, bwyta gig lawer. Wedi hyn yr edrychais, ac wele un arall megis llewpard, ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn: a phedwar pen oedd i’r bwystfil; a rhoddwyd llywodraeth iddo. Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos, ac wele bedwerydd bwystfil, ofnadwy, ac erchyll, a chryf ragorol; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn: yr oedd yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill dan ei draed: hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth y bwystfilod oll y rhai a fuasai o’i flaen ef; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn. Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o’r gwraidd dri o’r cyrn cyntaf o’i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.

Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a’r Hen ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned â’r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; ei orseddfa yn fflam dân, a’i olwynion yn dân poeth. 10 Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a’i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau. 11 Edrychais yna, o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn; ie, edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil, a difetha ei gorff ef, a’i roddi i’w losgi yn tân. 12 A’r rhan arall o’r bwystfilod, eu llywodraeth a dducpwyd ymaith; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser. 13 Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr Hen ddihenydd y daeth, a hwy a’i dygasant ger ei fron ef. 14 Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y byddai i’r holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd ei wasanaethu ef: ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol, yr hon nid â ymaith, a’i frenhiniaeth ni ddifethir.

15 Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynasant. 16 Neseais at un o’r rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau. 17 Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o’r ddaear. 18 Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd. 19 Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a’i ddannedd o haearn, a’i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â’i draed: 20 Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a’r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o’i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a’r olwg arno oedd yn arwach na’i gyfeillion. 21 Edrychais, a’r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt; 22 Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd, a rhoddi barn i saint y Goruchaf, a dyfod o’r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth. 23 Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac a’i sathr hi, ac a’i dryllia. 24 A’r deg corn o’r frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd ar eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin. 25 Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser. 26 Yna yr eistedd y farn, a’i lywodraeth a ddygant, i’w difetha ac i’w distrywio hyd y diwedd. 27 A’r frenhiniaeth a’r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo. 28 Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr, a’m gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.

Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Belsassar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth, sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf. Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai. Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo; a’r ddau gorn oedd uchel, ac un yn uwch na’r llall; a’r uchaf a gyfodasai yn olaf. Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewin, tua’r gogledd, a thua’r deau, fel na safai un bwystfil o’i flaen ef; ac nid oedd a achubai o’i law ef; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr. Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o’r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â’r ddaear; ac i’r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid. Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth. Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef, eithr efe a’i bwriodd ef i lawr, ac a’i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef. Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd. Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua’r deau, a thua’r dwyrain, a thua’r hyfryd wlad. 10 Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o’r llu, ac o’r sêr, ac a’u sathrodd hwynt. 11 Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef. 12 A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.

13 Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a’r llu yn sathrfa? 14 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.

15 A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr. 16 A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth. 17 Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd. 18 A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a’m cyfododd yn fy sefyll. 19 Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd. 20 Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia. 21 A’r bwch blewog yw brenin Groeg; a’r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf. 22 Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o’r un genedl, ond nid un nerth ag ef. 23 A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb‐greulon, ac yn deall damhegion. 24 A’i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, a’r bobl sanctaidd. 25 A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law. 26 A gweledigaeth yr hwyr a’r bore, yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd. 27 Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau; yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.

Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus, o had y Mediaid, yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid, Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd‐dra Jerwsalem.

Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw. A gweddïais ar yr Arglwydd fy Nuw, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion; Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau. Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir. I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i’th erbyn. Arglwydd, y mae cywilydd wynebau i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n tadau, oherwydd i ni bechu i’th erbyn. Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn. 10 Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi. 11 Ie, holl Israel a droseddasant dy gyfraith di, sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr Duw, am bechu ohonom yn ei erbyn ef. 12 Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barnwyr y rhai a’n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerwsalem. 13 Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr Arglwydd ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di. 14 Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd ar y dialedd, ac a’i dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef. 15 Eto yr awr hon, O Arglwydd ein Duw, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd.

16 O Arglwydd, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerwsalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch. 17 Ond yr awr hon gwrando, O ein Duw ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr Arglwydd. 18 Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a’r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di. 19 Clyw, Arglwydd; arbed, Arglwydd; ystyr, O Arglwydd, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy Nuw: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.

20 A mi eto yn llefaru, ac yn gweddïo, ac yn cyffesu fy mhechod, a phechod fy mhobl Israel, ac yn tywallt fy ngweddi gerbron yr Arglwydd fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw; 21 Ie, a mi eto yn llefaru mewn gweddi, yna y gŵr Gabriel, yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad, gan ehedeg yn fuan, a gyffyrddodd â mi ynghylch pryd yr offrwm prynhawnol. 22 Ac efe a barodd i mi ddeall, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd, Daniel, deuthum yn awr allan i beri i ti fedru deall. 23 Yn nechrau dy weddïau yr aeth y gorchymyn allan, ac mi a ddeuthum i’w fynegi i ti: canys annwyl ydwyt ti: ystyr dithau y peth, a deall y weledigaeth. 24 Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf. 25 Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a adeiledir drachefn, a’r mur, sef mewn amseroedd blinion. 26 Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol. 27 Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd‐offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.