Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Esra 1-3

Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremeia, y cyffrôdd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei Dduw gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiladed dŷ Arglwydd Dduw Israel, (dyna y Duw,) yr hwn sydd yn Jerwsalem. A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac â golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ Dduw, yr hwn sydd yn Jerwsalem.

Yna y cododd pennau‐cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr Arglwydd yr hwn oedd yn Jerwsalem. A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.

A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun: Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd, ac a’u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda. A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll, 10 Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill. 11 Yr holl lestri, yn aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.

A dyma feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda, pob un i’w ddinas ei hun; Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwŷr pobl Israel: Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain. Meibion Ara, saith gant a phymtheg a thrigain. Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg. Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. Meibion Sattu, naw cant a phump a deugain. Meibion Saccai, saith gant a thrigain. 10 Meibion Bani, chwe chant a dau a deugain. 11 Meibion Bebai, chwe chant a thri ar hugain. 12 Meibion Asgad, mil dau cant a dau ar hugain. 13 Meibion Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain. 14 Meibion Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain. 15 Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain. 16 Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain. 17 Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain. 18 Meibion Jora, cant a deuddeg. 19 Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain. 20 Meibion Gibbar, pymtheg a phedwar ugain. 21 Meibion Bethlehem, cant a thri ar hugain. 22 Gwŷr Netoffa, onid pedwar trigain. 23 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain. 24 Meibion Asmafeth, dau a deugain. 25 Meibion Ciriath‐arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain. 26 Meibion Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain. 27 Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain. 28 Gwŷr Bethel ac Ai, dau cant a thri ar hugain. 29 Meibion Nebo, deuddeg a deugain. 30 Meibion Magbis, cant ac onid pedwar trigain. 31 Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 32 Meibion Harim, tri chant ac ugain. 33 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain. 34 Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain. 35 Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain.

36 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri. 37 Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain. 38 Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain. 39 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.

40 Y Lefiaid: meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar ar ddeg a thrigain.

41 Y cantoriaid: meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain.

42 Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un deugain.

43 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 44 Meibion Ceros, meibion Sïaha, meibion Padon, 45 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub, 46 Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan, 47 Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia, 48 Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam, 49 Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai, 50 Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim, 51 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 52 Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa, 53 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama, 54 Meibion Neseia, meibion Hatiffa.

55 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda, 56 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel, 57 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami. 58 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain. 59 A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt: 60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.

61 A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt. 62 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. 63 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.

64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain: 65 Heblaw eu gweision a’u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau. 66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain; 67 Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain.

68 Ac o’r pennau‐cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr Arglwydd, i’w gyfodi yn ei le. 69 Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid. 70 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid, a rhai o’r bobl, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd; a holl Israel yn eu dinasoedd.

A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr. Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a’i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel, a’i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i offrymu arni offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw. A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd, poethoffrymau bore a hwyr. Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei ddydd; Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr Arglwydd, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i’r Arglwydd. O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd. Ond teml yr Arglwydd ni sylfaenasid eto. Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen, ac i’r seiri pren; a bwyd, a diod, ac olew, i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.

Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ Dduw i Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhai oll a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr Arglwydd. Yna y safodd Jesua, a’i feibion a’i frodyr, Cadmiel a’i feibion, meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ Dduw: meibion Henadad, â’u meibion hwythau a’u brodyr y Lefiaid. 10 A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr Arglwydd, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau, i foliannu yr Arglwydd, yn ôl ordinhad Dafydd brenin Israel. 11 A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr Arglwydd, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr Arglwydd, am sylfaenu tŷ yr Arglwydd. 12 Ond llawer o’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r pennau‐cenedl, y rhai oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd: 13 Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn a glywid ymhell.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.