Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Sechareia 1-7

Yn yr wythfed mis o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, Llwyr ddigiodd yr Arglwydd wrth eich tadau. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Dychwelwch ataf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd. Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o’r blaen arnynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr Arglwydd. Eich tadau, pa le y maent hwy? a’r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth? Oni ddarfu er hynny i’m geiriau a’m deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Megis y meddyliodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.

Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o’i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion. Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn. 10 A’r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear. 11 A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.

12 Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn? 13 A’r Arglwydd a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus. 14 A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion: 15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd Arglwydd y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem. 17 Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a’r Arglwydd a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.

18 A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn. 19 A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem. 20 A’r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd. 21 Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i’w gwasgaru hi.

Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur. A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi. Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef. Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o’i mewn. Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr Arglwydd, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.

Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr Arglwydd. O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef. Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision: a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd.

10 Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr Arglwydd. 11 A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atat. 12 A’r Arglwydd a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn. 13 Pob cnawd, taw yng ngŵydd yr Arglwydd: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.

Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i’w wrthwynebu ef. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr Arglwydd dydi, Satan; sef yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a’th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o’r tân? A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel. Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd oddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad. A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a’i gwisgasant â dillad; ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll gerllaw. Ac angel yr Arglwydd a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma. Gwrando, atolwg, Josua yr archoffeiriad, ti a’th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn: oherwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN. Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd Arglwydd y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod. 10 Y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden, a than y ffigysbren.

A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a’m deffrôdd, fel y deffroir un o’i gwsg, Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a’i badell ar ei ben, a’i saith lusern arno, a saith o bibellau i’r saith lusern oedd ar ei ben ef; A dwy olewydden wrtho, y naill o’r tu deau i’r badell, a’r llall o’r tu aswy iddi. A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A’r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd. Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo. Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd, Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, a’i ddwylo ef a’i gorffen: a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hebryngodd atoch. 10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda’r saith hynny: llygaid yr Arglwydd ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.

11 A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i’r canhwyllbren, ac ar ei aswy? 12 A mi a atebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bincyn olewydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain yr olew euraid? 13 Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd. 14 Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais, Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a’i hyd yn ugain cufydd, a’i led yn ddeg cufydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o’r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o’r tu acw, yn ei hôl hi. Dygaf hi allan, medd Arglwydd y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i’m henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dŷ ef, ac a’i difa ef, a’i goed, a’i gerrig.

Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan. A mi a ddywedais, Beth ydyw? Ac efe a ddywedodd, Effa ydyw, sydd yn myned allan. Ac efe a ddywedodd, Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear. Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa. Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a’i taflodd hi i ganol yr effa; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef. A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a’r nefoedd. 10 Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned â’r effa? 11 Dywedodd yntau wrthyf, I adeiladu iddi dŷ yng ngwlad Sinar: a hi a sicrheir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun.

Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a’r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres. Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon, Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon. Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A’r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear. Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a’r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a’r brithion a ânt allan i’r deheudir. A’r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear. Yna efe a waeddodd arnaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.

A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 10 Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia: 11 Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad; 12 A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gŵr a’i enw BLAGURYN: o’i le hefyd y blagura, ac efe a adeilada deml yr Arglwydd: 13 Ie, teml yr Arglwydd a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau. 14 A’r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr Arglwydd. 15 A’r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd, a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw.

Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o’r nawfed mis, sef Cisleu; Pan anfonasent Sereser, a Regemmelech, a’u gwŷr, i dŷ Dduw, i weddïo gerbron yr Arglwydd, Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?

Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a’r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi? A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain? Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a’i dinasoedd o’i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a’r dyffryndir?

A daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, gan ddywedyd, Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i’w frawd: 10 Ac na orthrymwch y weddw a’r amddifad, y dieithr a’r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg bob un i’w gilydd yn eich calonnau. 11 Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed. 12 Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a’r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd. 13 A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; felly y galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd Arglwydd y lluoedd. 14 Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a’r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a’i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.