Chronological
1 Yn nyddiau Ahasferus, (efe yw Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia, sef ar gant a saith ar hugain o daleithiau;) 2 Yn y dyddiau hynny, pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth, yr hon oedd yn Susan y brenhinllys, 3 Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a wnaeth wledd i’w holl dywysogion a’i weision; cadernid Persia, a Media, y rhaglawiaid, a thywysogion y taleithiau, oedd ger ei fron ef: 4 Fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd, ddyddiau lawer, sef cant a phedwar ugain o ddyddiau. 5 Ac wedi gorffen y dyddiau hynny, y brenin a wnaeth i’r holl bobl a gafwyd yn Susan y brenhinllys, o’r mwyaf hyd y lleiaf, wledd dros saith niwrnod, yng nghyntedd gardd palas y brenin: 6 Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct. 7 Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur, a chyfnewid amryw lestri, a gwin brenhinol lawer, yn ôl gallu y brenin. 8 Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod, nid oedd neb yn cymell: canys gosodasai y brenin orchymyn ar bob swyddwr o fewn ei dŷ, ar wneuthur yn ôl ewyllys pawb. 9 Y frenhines Fasti hefyd a wnaeth wledd i’r gwragedd yn y brenhindy oedd eiddo Ahasferus y brenin.
10 Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus, 11 Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin, yn y frenhinol goron, i ddangos i’r bobloedd ac i’r tywysogion ei glendid hi: canys glân yr olwg ydoedd hi. 12 Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a’i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo.
13 Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau, (canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn: 14 A nesaf ato ef oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth;) 15 Beth sydd i’w wneuthur wrth y gyfraith i’r frenhines Fasti, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion? 16 Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a’r tywysogion, Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai, ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd, a’r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus. 17 Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd, fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun, pan ddywedant, Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o’i flaen; ond ni ddaeth hi. 18 Arglwyddesau Persia a Media, y rhai a glywsant weithred y frenhines, a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin. Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter. 19 Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef, ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a’r Mediaid, fel na throsedder ef, na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i’w chyfeilles yr hon sydd well na hi. 20 A phan glywer gorchymyn y brenin, yr hwn a wnelo efe, trwy ei holl frenhiniaeth, (yr hon sydd fawr,) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i’w gwŷr, o’r mwyaf hyd y lleiaf. 21 A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan: 22 Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, ie, i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.
2 Wedi y pethau hyn, pan lonyddodd dicllonedd y brenin Ahasferus, efe a gofiodd Fasti, a’r hyn a wnaethai hi, a’r hyn a farnasid arni. 2 Am hynny gweision y brenin, y rhai oedd yn gweini iddo, a ddywedasant, Ceisier i’r brenin lancesau teg yr olwg o wyryfon: 3 A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth, a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg, o wyry, i Susan y brenhinllys, i dŷ y gwragedd, dan law Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd; a rhodder iddynt bethau i’w glanhau: 4 A’r llances a fyddo da yng ngolwg y brenin, a deyrnasa yn lle Fasti. A da oedd y peth hyn yng ngolwg y brenin; ac felly y gwnaeth efe.
5 Yn Susan y brenhinllys yr oedd rhyw Iddew a’i enw Mordecai, mab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Jemini: 6 Yr hwn a ddygasid o Jerwsalem gyda’r gaethglud a gaethgludasid gyd â Jechoneia brenin Jwda, yr hwn a ddarfuasai i Nebuchodonosor brenin Babilon ei gaethgludo. 7 Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad; canys nid oedd iddi dad na mam: a’r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw, Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo.
8 A phan gyhoeddwyd gair y brenin a’i gyfraith, pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai, cymerwyd Esther i dŷ y brenin, dan law Hegai ceidwad y gwragedd. 9 A’r llances oedd deg yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafr ganddo; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau, a’i rhannau, a rhoddi iddi saith o lancesau golygus, o dŷ y brenin: ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd. 10 Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl: canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai. 11 A Mordecai a rodiodd beunydd o flaen cyntedd tŷ y gwragedd, i wybod llwyddiant Esther, a pheth a wnelid iddi.
12 A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus, wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis, (canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt; chwe mis mewn olew myrr, a chwe mis mewn peraroglau, a phethau eraill i lanhau y gwragedd;) 13 Yna fel hyn y deuai y llances at y brenin; pa beth bynnag a ddywedai hi amdano a roddid iddi, i fyned gyda hi o dŷ y gwragedd i dŷ y brenin. 14 Gyda’r hwyr yr âi hi i mewn, a’r bore hi a ddychwelai i dŷ arall y gwragedd, dan law Saasgas, ystafellydd y brenin, ceidwad y gordderchadon: ni ddeuai hi i mewn at y brenin mwyach, oddieithr i’r brenin ei chwennych hi, a’i galw hi wrth ei henw.
15 A phan ddigwyddodd amser Esther, merch Abihail ewythr Mordecai, yr hon a gymerasai efe yn ferch iddo, i fyned i mewn at y brenin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasai Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafr yng ngolwg pawb a’r oedd yn edrych arni. 16 Felly Esther a gymerwyd at y brenin Ahasferus, i’w frenhindy ef, yn y degfed mis, hwnnw yw mis Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef. 17 A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi, ac a’i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti. 18 Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr i’w holl dywysogion a’i weision, sef gwledd Esther; ac efe a wnaeth ryddid i’r taleithiau, ac a roddodd roddion yn ôl gallu y brenin. 19 A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith, yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin. 20 Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl, na’i phobl; megis y gorchmynasai Mordecai iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai, fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef.
21 Yn y dyddiau hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin, y llidiodd Bigthan a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, sef o’r rhai oedd yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus. 22 A’r peth a wybu Mordecai; ac efe a’i mynegodd i Esther y frenhines; ac Esther a’i dywedodd wrth y brenin, yn enw Mordecai. 23 A phan chwilwyd y peth, fe a gafwyd felly: am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren. Ac ysgrifennwyd hynny mewn llyfr cronicl gerbron y brenin.
3 Wedi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad, ac a’i dyrchafodd ef; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef. 2 A holl weision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, oedd yn ymgrymu, ac yn ymostwng i Haman; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef: ond nid ymgrymodd Mordecai, ac nid ymostyngodd. 3 Yna gweision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, a ddywedasant wrth Mordecai, Paham yr ydwyt ti yn troseddu gorchymyn y brenin? 4 Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, eto ni wrandawai efe arnynt hwy; am hynny y mynegasant i Haman, i edrych a safai geiriau Mordecai: canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe. 5 A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu, nac yn ymostwng iddo, Haman a lanwyd o ddicllonedd. 6 Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan; canys mynegasant iddo bobl Mordecai: am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon, y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus, sef pobl Mordecai.
7 Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.
8 A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a’u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt. 9 O bydd bodlon gan y brenin, ysgrifenner am eu difetha hwynt: a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo’r rhai a wnânt y weithred hon, i’w dwyn i drysorau y brenin. 10 A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law, ac a’i rhoddes i Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr Iddewon. 11 A’r brenin a ddywedodd wrth Haman, Rhodder yr arian i ti, a’r bobl, i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg. 12 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn. 13 A’r llythyrau a anfonwyd gyda’r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt. 14 Testun yr ysgrifen, i roi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i’r holl bobloedd, i fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw. 15 Y rhedegwyr a aethant, wedi eu cymell trwy air y brenin, a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys. Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oedd yn athrist.
4 Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wisgodd sachliain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â chwerw lef uchel. 2 Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach. 3 Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw.
4 Yna llancesau Esther a’i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi. A’r frenhines a dristaodd yn ddirfawr; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano; ond ni chymerai efe hwynt. 5 Am hynny Esther a alwodd ar Hathach, un o ystafellyddion y brenin, yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o’i blaen hi; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn. 6 Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin. 7 A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon, i’w difetha hwynt. 8 Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i’w dinistrio hwynt, i’w ddangos i Esther, ac i’w fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin, i ymbil ag ef, ac i ymnhedd o’i flaen ef dros ei phobl. 9 A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai.
10 Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach, ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai; 11 Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mai pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o’i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain. 12 A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther. 13 Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon. 14 Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth?
15 Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn: 16 Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded. 17 Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.
5 Ac ar y trydydd dydd, Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd, ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o’r tu mewn, ar gyfer tŷ y brenin: a’r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ. 2 A phan welodd y brenin Esther y frenhines yn sefyll yn y cyntedd, hi a gafodd ffafr yn ei olwg ef: a’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur oedd yn ei law ef tuag at Esther; ac Esther a nesaodd, ac a gyffyrddodd â phen y deyrnwialen. 3 Yna y brenin a ddywedodd wrthi, Beth a fynni di, y frenhines Esther? a pha beth yw dy ddeisyfiad? hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a’i rhoddir i ti. 4 A dywedodd Esther, O rhynga bodd i’r brenin, deled y brenin a Haman heddiw i’r wledd a wneuthum iddo. 5 A’r brenin a ddywedodd, Perwch i Haman frysio i wneuthur yn ôl gair Esther. Felly y daeth y brenin a Haman i’r wledd a wnaethai Esther.
6 A’r brenin a ddywedodd wrth Esther yng nghyfeddach y gwin, Beth yr wyt ti yn ei ofyn, ac fe a roddir i ti? a pheth yr wyt ti yn ei geisio? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a’i cwblheir. 7 Ac Esther a atebodd, ac a ddywedodd, Fy nymuniad a’m deisyfiad yw, 8 O chefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad; deled y brenin a Haman i’r wledd a arlwywyf iddynt, ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin.
9 Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin, na chyfodasai efe, ac na syflasai erddo ef, Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai. 10 Er hynny Haman a ymataliodd; a phan ddaeth i’w dŷ ei hun, efe a anfonodd, ac a alwodd am ei garedigion, a Seres ei wraig. 11 A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a’r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin. 12 A dywedodd Haman hefyd, Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda’r brenin i’r wledd a wnaethai hi, ond myfi; ac yfory hefyd y’m gwahoddwyd ati hi gyda’r brenin. 13 Ond nid yw hyn oll yn llesau i mi, tra fyddwyf fi yn gweled Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin.
14 Yna y dywedodd Seres ei wraig, a’i holl garedigion wrtho, Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder, a’r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dos gyda’r brenin i’r wledd yn llawen. A da oedd y peth gerbron Haman, am hynny efe a baratôdd y crocbren.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.