Revised Common Lectionary (Complementary)
97 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer. 2 Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef. 3 Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch. 4 Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd. 5 Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd, o flaen Arglwydd yr holl ddaear. 6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant. 7 Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau. 8 Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O Arglwydd. 9 Canys ti, Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau. 10 Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol. 11 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon. 12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
18 Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant. 19 Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di: a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. 20 Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni’m gwêl dyn, a byw. 21 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig. 22 A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw, nes i mi fyned heibio. 23 Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a’m tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.
14 A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
15 Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 16 Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras. 17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. 18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.