Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
11 Yna y’m cyfododd yr ysbryd, ac y’m dug hyd borth dwyrain tŷ yr Arglwydd, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain: ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur, a Phelatia mab Benaia, tywysogion y bobl. 2 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd, ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon: 3 Y rhai a ddywedant, Nid yw yn agos; adeiladwn dai; hi yw y crochan, a ninnau y cig. 4 Am hynny proffwyda i’w herbyn hwynt, proffwyda, fab dyn. 5 Yna y syrthiodd ysbryd yr Arglwydd arnaf, ac a ddywedodd wrthyf, Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Tŷ Israel, fel hyn y dywedasoch: canys mi a wn y pethau sydd yn dyfod i’ch meddwl chwi, bob un ohonynt. 6 Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon, a llanwasoch ei heolydd hi â chelaneddau. 7 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi, yw y cig; a hithau yw y crochan: chwithau a ddygaf allan o’i chanol. 8 Y cleddyf a ofnasoch, a’r cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd Dduw. 9 Dygaf chwi hefyd allan o’i chanol hi, a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a gwnaf farn yn eich mysg. 10 Ar y cleddyf y syrthiwch, ar derfyn Israel y barnaf chwi: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 11 Y ddinas hon ni bydd i chwi yn grochan, ni byddwch chwithau yn gig o’i mewn; ond ar derfyn Israel y barnaf chwi. 12 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd: canys ni rodiasoch yn fy neddfau, ac ni wnaethoch fy marnedigaethau; ond yn ôl defodau y cenhedloedd o’ch amgylch y gwnaethoch.
13 A phan broffwydais, bu farw Pelatia mab Benaia: yna syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais â llef uchel, a dywedais, O Arglwydd Dduw, a wnei di dranc ar weddill Israel? 14 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 15 Ha fab dyn, dy frodyr, dy frodyr, dynion dy geraint, a holl dŷ Israel yn gwbl, ydyw y rhai y dywedodd preswylwyr Jerwsalem wrthynt, Ymbellhewch oddi wrth yr Arglwydd; i ni y rhodded y tir hwn yn etifeddiaeth. 16 Dywed am hynny, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd, ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd, eto byddaf yn gysegr bychan iddynt yn y gwledydd lle y deuant. 17 Dywed gan hynny, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd, a chynullaf chwi o’r gwledydd y’ch gwasgarwyd ynddynt, a rhoddaf i chwi dir Israel. 18 A hwy a ddeuant yno, ac a symudant ei holl frynti hi a’i holl ffieidd‐dra allan ohoni hi. 19 A rhoddaf iddynt un galon, ac ysbryd newydd a roddaf ynoch; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o’u cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gig: 20 Fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw iddynt hwy. 21 Ond am y rhai y mae eu calon yn myned ar ôl meddwl eu brynti a’u ffeidd-dra, rhoddaf eu ffordd hwynt ar eu pennau eu hun, medd yr Arglwydd Dduw.
22 Yna y ceriwbiaid a gyfodasant eu hadenydd, a’r olwynion yn eu hymyl, a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd. 23 A gogoniant yr Arglwydd a ymddyrchafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd sydd o’r tu dwyrain i’r ddinas.
24 Yna yr ysbryd a’m cododd i, ac a’m dug hyd Caldea at y gaethglud mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw. A’r weledigaeth a welswn a ddyrchafodd oddi wrthyf. 25 Yna y lleferais wrth y rhai o’r gaethglud holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a ddangosasai efe i mi.
5 Ac mi a welais yn neheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac oddi allan wedi ei selio â saith sêl. 2 Ac mi a welais angel cryf yn cyhoeddi â llef uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei seliau ef? 3 Ac nid oedd neb yn y nef, nac yn y ddaear, na than y ddaear, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno. 4 Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno. 5 Ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla: wele, y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei saith sêl ef. 6 Ac mi a edrychais; ac wele, yng nghanol yr orseddfainc a’r pedwar anifail, ac yng nghanol yr henuriaid, yr oedd Oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw, wedi eu danfon allan i’r holl ddaear. 7 Ac efe a ddaeth, ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc. 8 A phan gymerth efe’r llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau, a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth, y rhai ydyw gweddïau’r saint. 9 A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef: oblegid ti a laddwyd, ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl; 10 Ac a’n gwnaethost ni i’n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaear.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.