Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 67

I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.

67 Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela: Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia. Duw a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.

Diarhebion 2:6-8

Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn. Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.

Actau 16:1-8

16 Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, a’i enw Timotheus, mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a’i dad oedd Roegwr: Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium. Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a’i cymerth ac a’i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef. Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy’r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw’r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem. Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd. Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu’r gair yn Asia; Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt. Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.