Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 53

I’r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, Salm Dafydd.

53 Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni. Edrychodd Duw i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw. Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar Dduw. Yno yr ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd: gwaradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy. O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.

Lefiticus 25:1-19

25 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorffwysed y tir Saboth i’r Arglwydd. Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd. Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i’r tir, sef Saboth i’r Arglwydd: na heua dy faes, ac na thor dy winllan. Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist: bydd yn flwyddyn orffwystra i’r tir. Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i’th wasanaethwr, ac i’th wasanaethferch, ac i’th weinidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi. I’th anifail hefyd, ac i’r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.

Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain. Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad. 10 A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion: jiwbili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth, ie, dychwelwch bob un at ei deulu. 11 Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd. 12 Am ei bod yn jiwbili, bydded sanctaidd i chwi: o’r maes y bwytewch ei ffrwyth hi. 13 O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth. 14 Pan werthech ddim i’th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd. 15 Prŷn gan dy gymydog yn ôl rhifedi’r blynyddoedd ar ôl y jiwbili; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau. 16 Yn ôl amldra’r blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ôl anamldra’r blynyddoedd y lleihei di ei bris; oherwydd rhifedi’r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti. 17 Ac na orthrymwch bob un ei gymydog; ond ofna dy Dduw: canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.

18 Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel. 19 Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwyta digon, a thrigo ynddo yn ddiogel.

Datguddiad 19:9-10

Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn. 10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i’w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.