Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 126

Caniad y graddau.

126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.

Exodus 12:21-27

21 A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg. 22 A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o’r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore. 23 Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro’r Eifftiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws, ac ni ad i’r dinistrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinistrio. 24 A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd. 25 A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn. 26 A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych? 27 Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant.

Ioan 11:45-57

45 Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef. 46 Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.

47 Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion. 48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd. 49 A rhyw un ohonynt, Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi’n gwybod dim oll, 50 Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl. 51 Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl; 52 Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid. 53 Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef. 54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion.

55 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg, i’w glanhau eu hunain. 56 Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r ŵyl? 57 A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.