Revised Common Lectionary (Complementary)
34 Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb: 35 Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. 36 Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:) 37 Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan: 38 Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef. 39 A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren: 40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg; 41 Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw. 42 Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. 43 I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
17 Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a’r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt. 18 Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a’i phobl yn llawenydd. 19 Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd. 20 Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir. 21 A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth. 22 Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo. 23 Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr Arglwydd ydynt hwy, a’u hepil gyda hwynt. 24 A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf. 25 Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr Arglwydd.
118 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
14 Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi. 15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 16 Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd. 18 Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth. 19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd. 20 Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. 21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi. 22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl. 23 O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni. 24 Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
19 Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o’r holl ddynion ydym ni. 20 Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant. 21 Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw. 22 Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb. 23 Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef. 24 Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth. 25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. 26 Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau.
34 Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb: 35 Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. 36 Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:) 37 Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan: 38 Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef. 39 A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren: 40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg; 41 Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw. 42 Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. 43 I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
20 Y dydd cyntaf o’r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto’n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd. 2 Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o’r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef. 3 Yna Pedr a aeth allan, a’r disgybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd; 4 Ac a redasant ill dau ynghyd: a’r disgybl arall a redodd o’r blaen yn gynt na Phedr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd. 5 Ac wedi iddo grymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn. 6 Yna y daeth Simon Pedr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i’r bedd, ac a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod; 7 A’r napgyn a fuasai am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyda’r llieiniau, ond o’r neilltu wedi ei blygu mewn lle arall. 8 Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd; ac a welodd, ac a gredodd. 9 Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythur, fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw. 10 Yna y disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt.
11 Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wylo, hi a ymostyngodd i’r bedd; 12 Ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth ben, ac un wrth draed y lle y dodasid corff yr Iesu. 13 A hwy a ddywedasant wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? Hithau a ddywedodd wrthynt, Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef. 14 Ac wedi dywedyd ohoni hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe. 15 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau, yn tybied mai’r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syr, os tydi a’i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a’i cymeraf ef ymaith. 16 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni; yr hyn yw dywedyd, Athro. 17 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a’ch Tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau. 18 Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i’r disgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi.
24 A’r dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. 2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. 4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. 5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw? 6 Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, 7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi. 8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef; 9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11 A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12 Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.