Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 118:1-2

118 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

Salmau 118:14-24

14 Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi. 15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 16 Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd. 18 Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth. 19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd. 20 Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. 21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi. 22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl. 23 O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni. 24 Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.

Barnwyr 4:17-23

17 Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.

18 A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i’r babell, a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban. 19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a’i diododd ef, ac a’i gorchuddiodd. 20 Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes. 21 Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a’i gwthiodd i’r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw. 22 Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i’w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais. 23 Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel.

Barnwyr 5:24-31

24 Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell. 25 Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn. 26 Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a’i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef. 27 Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw. 28 Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy’r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau? 29 Ei harglwyddesau doethion a’i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun, 30 Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gŵr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symudliw o wniadwaith o’r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr? 31 Felly y darfyddo am dy holl elynion, O Arglwydd: a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.

Datguddiad 12:1-12

12 Arhyfeddod mawr a welwyd yn y nef; gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren: A hi’n feichiog, a lefodd, gan fod mewn gwewyr, a gofid i esgor. A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef; ac wele ddraig goch fawr, a saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron. A’i chynffon hi a dynnodd draean sêr y nef, ac a’u bwriodd hwynt i’r ddaear. A’r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno. A hi a esgorodd ar fab gwryw, yr hwn oedd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn: a’i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw, ac at ei orseddfainc ef. A’r wraig a ffodd i’r diffeithwch, lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri ugain o ddyddiau. A bu rhyfel yn y nef: Michael a’i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a’r ddraig a ryfelodd a’i hangylion hithau, Ac ni orfuant; a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef. A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo’r holl fyd: efe a fwriwyd allan i’r ddaear, a’i angylion a fwriwyd allan gydag ef. 10 Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i’r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos. 11 A hwy a’i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angau. 12 Oherwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a’r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, a’r môr! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.