Revised Common Lectionary (Complementary)
118 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
14 Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi. 15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 16 Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd. 18 Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth. 19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd. 20 Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. 21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi. 22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl. 23 O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni. 24 Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
6 A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar hugain. 2 A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid. 3 A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd; ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd. 4 A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch. 5 Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.
6 A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd. 7 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw. 8 A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn. 9 A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi? 10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad. 11 Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a’r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom, a’i holl dŷ.
12 A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd. 13 A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion. 14 A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr Arglwydd; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain. 15 Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, trwy floddest, a sain utgorn.
24 A’r dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. 2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. 4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. 5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw? 6 Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, 7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi. 8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef; 9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11 A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12 Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.